ELF 4

Prynhawn Mercher penderfynais orffwys unwaith eto. Mae’r sesiynau mentora yn gallu bod yn drwm bob pryd bwyd. Amser cinio bum yn ceisio cynorthwyo dyn o Rwmania sy’n arwain gweinidogaeth i ddynion yn y wlad, ac yna yn ystod y pryd nos roeddwn yn mentora gwraig sydd wedi cael ei chlwyfo Read more

ELF 3

Roedd dydd Mawrth yn bygwth bod yn ddiwrnod llawn iawn. Roedd gen i dair sesiwn mentora, gyda thri o weinidogion o wledydd gwahanol (Lithwania, Gwlad Pŵyl a Rwmania), a chyfarfodydd drwy’r dydd. Roedd John Piper yn glir iawn yn y bore yn ein harwain i ystyried athrawiaeth cyfiawnhad drwy ffydd Read more

Albania (mwy o’r hanes)

Wedi cyrraedd Elbasan brynhawn dydd Iau aeth Dewi a minnau i gartref Armand ac Elona, cwpl ifanc sy’n byw yno. Roeddem wedi cael ein gwahodd i fynd yno i gael cinio hwyr. Roedd chwaer Erman, Eva, yno hefyd. Mae gan Erman ddau o blant, hogyn pedair oed – Elisé (Eliseus), Read more

Taith Albania 2016

Dyma’r pedwerydd tro i mi ddod i Albania i gynorthwyo’r gwaith yma. Y tro hwn mae’n braf cael cwmni Dewi Tudur, a’r ddau ohonom yn mwynhau’r haul braf yn y wlad. Fe gyrhaeddom nos Fawrth wedi taith oedd yn golygu aros dwyawr ym maes awyr Istanbul. Roedd fy nghyfaill Zef Read more

Ymlaen i Košice

Roedd yn hyfryd cyrraedd Košice fore llun a gweld Heledd yn disgwyl amdana i ar blatfform yr orsaf drenau. Fe aethom oddi yno draw i’r fflat lle mae wedi byw ers iddi gyrraedd yma bedair blynedd a hanner yn ôl. Doedd dim arbennig wedi ei drefnu dros y deuddydd oedd i ddod felly roedd yn gyfle da i seiadu, ymlacio a cheisio gwneud rhywfaint o waith. Tydi’r tywydd ddim wedi bod yn garedig iawn ar y daith hon, a glaw yn cyfyngu ar ein hawydd i fynd i’r mynyddoedd am dro. (rhagor…)

Penwythnos ym Mudapest

Fel rhan o fy ngweinidogaeth gydag UFM rwyf wedi dod i Fudapest yn Hwngari i gynorthwyo eglwys yma. Dydd Gwener cyrhaeddais Budapest ar gyfer cyfres o gyfarfodydd dros y penwythnos. Fe’m croesawyd yn y maes awyr gan Laszlo, y gweinidog oedd wedi fy ngwahodd yma. Wedi mynd i’w gartref cawsom Read more