Amdanom ni

Mae Capel y Ffynnon yn eglwys efengylaidd Gymraeg sy’n cyfarfod yn ninas Bangor, Gwynedd ers ei sefydlu ym 1985.

Rydym yn gymdeithas o bobl sy’n caru’r Arglwydd Iesu Grist. Mae ein hoedran, ein cefndir a’n diddordebau yn amrywio, ond rydym i gyd wedi dod i gredu mai’r peth mwyaf pwysig yw cael perthynas fyw hefo Iesu Grist. Mae hyn yn rhoi ystyr, cyfeiriad a gwerth i’n bywydau.

Amcanion yr Eglwys yw i addoli’r unig wir Dduw, cyhoeddi efengyl Iesu Grist gan ddod â phobl i mewn i gymdeithas Ei deulu, eu meithrin i ddod yn debycach i Iesu Grist, ac i ymarfer eu doniau i gymeradwyo Crist i eraill a gwasanaethu’r gymdeithas.

Gweinidog Capel y Ffynnon – Rhodri Glyn

Mae gan yr Eglwys statws elusennol. Rhif Cofrestriad Elusennol yr Eglwys yw: 1172243

O’r chwith i’r dde: Dafydd Picton Jones, Euryn Roberts, Steffan Job a Rhodri Glyn, henuriaid a gweinidog Capel y Ffynnon