Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 5
Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15 BCN)
A oeddwn yn rhy galed ar Efa ym myfyrdod ddoe? Hi oedd y cyfrwng i’r sarff ddwyn gofid i’n byd. Trwyddi hi daeth pechod yn rhan o’n natur. Mae’r hanes yn Genesis yn dweud wrthym fod Adda yn gyd-gyfrifol am y bai, am nad ataliodd hi rhag bwyta; yn hytrach ymunodd gyda hi mewn gwrthryfel yn erbyn gorchymyn Duw. Ond hi gymrodd y ffrwyth. (rhagor…)
A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a’i fod yn deg i’r golwg ac yn bren i’w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3:6 BCN)
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (Salmau 42:1 Cyfieithiad William Morgan)
Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain.