imageMae’r penawdau yn y rhaglenni newyddion wedi eu hawlio eto gan y terfysgwyr. Mae’n ymddangos nad oes wythnos yn mynd heibio heb ryw sôn am bethau ofnadwy yn digwydd yn ein byd. Yr hyn sy’n ei wneud yn waeth yw pan fydd y pethau hyn yn cael eu cyflawni yn enw Duw, neu yn enw crefydd.

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus wrth gwrs wrth ymateb i’r pethau hyn. Mae llu o arweinwyr crefydd Islam wedi datgan yn glir iawn nad yw gweithredoedd y ddau ym Mharis yn cynrychioli eu crefydd. Am bob terfysgwr sy’n cyflawni troseddau yn enw crefydd, mae yna laweroedd o rai sy’n dilyn Islam sydd yn byw yn heddychol, ac wedi eu dychryn gymaint â phawb arall gyda’r hyn sydd wedi digwydd. Nid oes gan Islam fonopoli ar gyflawni erchyllderau. Mae gan bob cred benodau yn eu hanes sy’n bethau i gywilyddio amdanynt.

Ac nid pobl grefyddol yn unig sy’n cyflawni erchyllderau. Gwelodd yr ugeinfed ganrif bethau erchyll wedi eu gwneud gan rai wrthodai grefydd yn llwyr – meddyliwn am Stalin, Mao Zedong, Hitler a Pol Pot. Mae gan Gristnogaeth ei phenodau lle gwyrdrowyd dysgeidiaeth Crist hefyd (er fod astudiaeth ddiweddar wedi dangos mai tua 6% o ryfeloedd y ddynolryw y gellir eu priodoli i resymau crefyddol).

Ond mae’r cynnydd diweddar yn y trais a gyflawnwyd yn enw Islam yn codi cwestiwn: oes yna rhywbeth am y grefydd honno sydd yn rhoi cyfle i derfysgwyr? Mae’r ymosodiad ym Mharis ar newyddiadurwyr Charlie Hebdo yn tanlinellu un gwahaniaeth mawr rhwng Islam â Christnogaeth.

Mae’n debyg fod y rhai ymosododd ar swyddfeydd Charlie Hebdo wedi gweiddi “Rydym wedi dial cam y Proffwyd Mohammad”. Cyfeiriad mae’n debyg at y ffaith fod y papur newydd dychanol wedi cyhoeddi cartwnau o’r proffwyd Mohammed rai blynyddoedd yn ôl.
Un peth nad yw crefydd Islam yn gwybod sut i ddelio ag o yw cywilydd. Mae anrhydedd yn rhan o wead y grefydd. Am hynny mae’r mwyafrif o Foslemiaid yn credu na chafodd Iesu mo’i groeshoelio. Mae nhw’n dysgu fod Allah wedi achub Iesu rhag cywilydd y groes. Jwdas a groeshoeliwyd, ac nid Iesu medden nhw. Mae nhw’n honni eu bod nhw’n anrhydeddu Iesu yn fwy na Christnogiom am eu bod nhw yn dweud na wynebodd o warth y groes. (Does ganddyn nhw ddim gronyn o dystiolaeth dros honni hyn.)

Ond mae Cristnogaeth wedi ei seilio ar y ffaith fod Iesu wedi dwyn cywilydd a gwarth eithafol. Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth, ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd….. daeth gwaradwydd y rhai sy’n dy waradwyddo di arnaf finnau. (‭Y Salmau‬ ‭69‬:‭7,9 BCN)

Trwy ddwyn ein cywilydd yn ein lle daw gobaith i ni: Roedd wedi ei ddirmygu a’i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur; yr oeddem fel pe’n cuddio’n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu. Eto, ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd— a ninnau’n ei gyfrif wedi ei glwyfo a’i daro gan Dduw, a’i ddarostwng. (Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. (‭Eseia‬ ‭53‬:‭3-5‬ BCN)

Ac felly fe’n galwyd ni i ddilyn ein Harglwydd. Pan fyddwn ni neu ein Harglwydd yn cael ein dirmygu, mae galw arnom i ddwyn hynny gyda gras. Rhaid i ni droi’r foch arall. Digon i’r disgybl yw bod fel ei athro, a’r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu? (‭Mathew‬ ‭10‬:‭25‬ BCN)

Fe ddaw dydd pryd y gelwir y gwatwarwyr i gyfrif, ond nid yn ein dwylo ni mae hynny. Felly rydym ni sydd yn Gristnogion i garu’r rhai sy’n ein sarhau a bendithio’r rhai sydd yn ein melltithio. Mae hyn yn dramgwydd i Islam, fel ag y mae i gymaint o gredoau eraill.

Yn y cyfamser gallwn gydymdeimlo â’r rhai sy’n dioddef dan y trais; gallwn ddiolch fod y mwyafrif o Foslemiaid yn condemnio gweithredoedd y terfysgwyr; ond dylem weddïo y bydd ffordd Crist yn cael lle yng nhalonnau mwy a mwy o bobl.