imageMae’n ganol wythnos, a phrysurdeb gwaith a gorchwylion gwahanol yn llenwi ein meddyliau. Mae’r penwythnos diwethaf yn ymddangos yn hir yn ôl ar un olwg. Ond mi fydd nifer ohonoch sy’n darllen hwn wedi gwrando pregeth (neu ddwy efallai) dydd Sul.

Beth sydd wedi digwydd i’r hyn glywsoch chi? Mae Duw wedi addo na fydd ei air yn dychwel ato yn wag, heb gyflawni ei fwriad. Beth mae’r hyn wnaeth Duw ei ddweud wrthych chi bedwar diwrnod yn ôl wedi ei gyflawni ynoch chi?

Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn aml yn ei chael yn anodd cofio beth oedd testun pregethau’r Sul hyd yn oed erbyn dydd Mercher. Dyna pam mae’n rhaid gwneud rhywbeth bwriadol, i beri fod y Gair yn gwreiddio. Meddyliwch am y rhybuddion sydd yn yr Ysgrythur ynglŷn â hyn.

A phob un sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof a heb eu gwneud, fe’i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod. (‭Mathew‬ ‭7‬:‭26‬ BCN) Dyma Iesu ei hun yn dweud wrthym na tydi gwrando ddim yn ddigon. Peth ffôl yw gadael y gair i lithro drwy ein dwylo.

Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. (‭Iago‬ ‭1‬:‭22‬ BCN) Mae Iago yn dweud mai ffurf ar hunan-dwyll yw gwrando’r Gair, heb wneud rhywbeth o ganlyniad i hynny. Does neb ohonom am fod mor ffôl â thwyllo ein hunain!

Beth am atgoffa’n hunain heddiw o bregethau’r Sul. Cofiwch beth oedd testun y bregeth, ac ewch i ddarllen y bennod y daeth ohoni eto. Meddyliwch am benawdau’r bregeth, os gallwch eu cofio. Ystyriwch sut all y gwirionedd glywsoch siarad i mewn i’ch sefyllfa chi heddiw. Oes yna rywbeth glywsoch chi y gallwch ei rannu gyda rhywun arall heddiw i’w calonogi, neu i wneud iddyn nhw feddwl?

Efallai byddwch yn cofio i ryw emyn eich taro wrth i chi ei chanu. Chwiliwch amdani, a chanwch hi eto, gan feddwl beth yn union oedd wedi eich cyffwrdd, a trowch y geiriau yn weddi yn eich calon. Gweithiwch i wneud yn siwr fod yna elw yn dod o’r Sul.

Pan oedd Nehemeia yn adeiladu muriau Jerwsalem gyda’i gyd-Israeliaid, roeddent yn gweithio gyda’u cleddyfau yn barod ar eu clun. Ein cleddyf ni yw Gair Duw. Peidiwch a’i adael ar ôl.