Daeth diwrnod y teithio. Ond nid y siwrnai oedd yr unig beth ar fy meddwl. Neithiwr, wedi’r cyfarfod olaf, aeth pump ohonom am dro i dafarn heb fod ymhell o’r gwesty lle buom yn aros. Gyda mi roedd Dau gyfaill o Ogledd Iwerddon, gweinidog ifanc o Hwngari a gŵr o Sweden sydd wedi bod yn gweinidogaethu, ond oherwydd afiechyd roedd wedi gorfod rhoi ei waith heibio dros dro. Buom yn trafod yr wythnos a sut fyddai’r hyn roeddem wedi ei brofi yn dylanwadu ar yr hyn fyddwn yn ei wneud.

Wedi dychwelyd i’r gwesty roedd Jerry yn ei wely yn barod. Gwyddwn ei fod yn cychwyn yn gynnar yn y bore, ond doeddwn i ddim yn sigwyl y byddai cymaint o amharu ar fy noson. Cododd tua 1.30 a chymryd cawod. Bu allan o bob hyd yn trefnu ei bethau, gan adael yr ystafell tua awr yn ddiweddarach. Wedyn ar ôl ychydig dyMa gnoc ar y drws. Roedd yn ôl yn dweud ei fod wedi gadael arian rhywle, felly am hanner awr wedi dau y bore roeddwn ar fy ngliniau yn edrych o dan y gwely, yn y cypyrddau a phob man am ei arian. Ddaethom ni ddim o hyd iddo, felly yn y diwedd fe aeth beth bynnag!

Roeddwn wedi deffro eto erbyn pump, a doedd dim diben mynd yn ôl i gysgu. Am hanner awr wedi chwech dyma fynd i gael fy mrecwast, ac yna am saith roedd wyth ohonom yn cyfarfod i geisio trefnu ymestyn y mentora ymlaen i’r flwyddyn sydd yn dod. Wedyn dyma fynd i hel fy mhethau i gael ar y bws oedd yn mynd â ni i’r maes awyr. Yn y gwesty cyn gadael roedd llawer yn ffarwelio â’i gilydd. Trefnwyd fy mod yn ymweld ag Albania a Serbia ym mis Ebrill flwyddyn nesaf, ac ambell un arall yn dweud wrthyf am wneud yn siwr fy mod yn cysylltu â hwy.

Nid wyf wedi sôn eleni am yr Americanwyr. Mae’r gynhadledd yn cael ei drefnu gan bwyllgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sawl gwlad yn Ewrop, ac un Americanwr, Greg Pritchard. Ei weledigaeth ef yw’r Fforwm, ond mae’n benderfynol mai cynhadledd Ewropeaidd yw hon i fod. Mae eu cyfraniad i’r cwbl yn enfawr, ond cyfrannu trwy wasanaethu yw’r egwyddor. Mae llawer o’r arian i noddi mynychwyr o Ddwyrain Ewrop yn dod o’r Unol Daleithiau. Mae tua 70 o wirfoddolwyr yn dod, gan dalu eu costau eu hunain, a maent yn in trefnu, paratoi ystafelloedd, recordio a ffilmio sessiynau, ac yn wir fyddai’r cyfan ddim yn digwydd heb eu gwasanaeth diflino hwy. mae amryw o siaradwyr yn dod o’r Unol Daleithiau hefyd (ar eu cost eu hunain), ond mae gostyngeiddrwydd y mwyafrif o’r rhain yn arbennig. Mae mwy a mwy o’r siaradwyr yn dod o Ewrop – sawl un wedi bod yn fynychwyr eu hunain yn y gorffennol. Dyma un man lle mae cyfraniad America yn hynod o gynorthwyol a chadarnhaol. Rwyf finnau wedi dod i adnabod sawl un dros y blynyddoedd ac mae’r gymdeithas yn felys bob amser.

Roedd tua ugain ohonom ar y bws yn cyd-deithio. Yn eu plith rhywun nad oeddwn wedi cwrdd o’r blaen. Mae Yasmina yn hannu o Novi Sad yn Serbia. Dyma’r tro cyntaf iddi fynychu’r fforwm. Ond nid yn Serbia mae hi’n byw bellach. Mae’n gwasanaethu fel canhades yn Ffrainc. Mae ei phriod, sy’n dod o’r Iwcraen, â hi yn gweithio gydag eglwys yn Nice. Dyma sut mae’r byd wedi newid. Mae Dwyrain Ewrop bellach yn anfon cenhadon i Orllewin y cyfandir!

Wedi cyrraedd y maes awyr yn Katowiče roedd digon o amser am baned cyn mynd ar yr awyren ar gyfer y daith, heibio Dusseldorf, i faes awyr Manceinion ac yna adref. Siawns y ca i gysgu’n well fan honno!