Beth barodd i’r dŵr wrido
Wrth weld dy wyneb Di?
Beth wnaeth i’r storm dawelu?
 gair llonyddai’r lli!
Pa lewyrch ddaeth i lygaid
Na welent, a pha hud
Agorodd glustiau’r byddar,
A deffro’r dafod fud?

Ni all fy nghalon wrido
Er ei chywilydd hi,
A’r storm sy’n dal i ruo
Yn fy nghydwybod i;
Ni threiddia’r golau ataf
A galar yw fy nghân
Nes i Ti ddod i’m deffro
I weld dy wyneb glân.

© Dafydd M Job

Categories: Cerddi