Nadolig Llawen!
Rydym i gyd yn mawr obeithio y bydd yr wythnosau nesaf yn rhai hudolus a hapus.
Bydd croeso cynnes i chi ymuno gyda ni yn un o’n cyfarfodydd isod.
Ac rydym wir yn gobeithio y cewch chi a’r rhai sy’n annwyl i chi y Nadolig gorau erioed, ac yn fwy na dim gweddïwn y dewch o hyd i obaith sy’n parhau.
Carolau yng Ngolau Cannwyll- Cyfle i dawelu a phrofi naws y Nadolig drwy gan carolau a mwynhau darlleniadau ac eitemau amrywiol.
- 6 yh Nos Sadwrn 17 Rhagfyr
- Neuadd Bentref Rhiwlas
- Am ddim
Gwasanaeth Nadolig i’r teulu
- Ymunwch gyda ni am awr o wasanaeth lle cawn hwyl, canu, a chyfle i feddwl ychydig am wir ystyr y Nadolig wrth i ni fynd ar daith gyda’n gilydd.
- 10:30-11:30 Bore Sul, 18 Rhagfyr
- Neuadd Ysgol y Garnedd, Bangor
- Paned a mins pei i bawb (a llwyth o siocled i’r plant!)
Dyddiadur Cyhoeddus
- Dydd Sul (4ydd Rhagfyr) – 9:50 – Ysgol Sul (Neuadd Ysgol y Garnedd, Bangor)
- Dydd Sul (4ydd Rhagfyr) – 10:30 – Gwasanaeth bore (Neuadd Ysgol y Garnedd, Bangor)
- Dydd Llun (5ed Rhagfyr) – Yr Anrheg Nadolig (Ysgol y Faenol ac Ysgol Rhiwlas)
- Dydd Gwener (9fed Rhagfyr) – Clwb Cyffro a Selar (Neuadd Ebeneser)
- Dydd Sul (11fed Rhagfyr) – 9:50 – Ysgol Sul (Neuadd Ysgol y Garnedd, Bangor)
- Dydd Sul (11fed Rhagfyr) – 10:30 – Gwasanaeth bore (Neuadd Ysgol y Garnedd, Bangor)
- Nos Sadwrn (17 Rhagfyr) – 18:00 – Carolau yng ngolau Cannwyll (Neuadd Bentref Rhiwlas)
- Dydd Sul (18fed Rhagfyr) – 10:30 – Taith y Nadolig – Gwasanaeth i’r teulu cyfan (Neuadd Ysgol y Garnedd, Bangor)
- Nos Wener (23ain Rhagfyr) – 18:00 – Parti Nadolig y plant, lleoliad i gadarnhau
- Bore Nadolig (25ain Rhagfyr) – 10:00 – Gwasanaeth yn Neuadd Bentref Rhiwlas
- Dydd Calan (1 Ionawr) – 10:30 – Gwasanaeth yn Neuadd Bentref Rhiwlas