Cyfarfod Bore Sul y Pasg – Canolfan Penrhosgarnedd, Bangor am 10.30y.b.

Mae adeilad yn brawf o adeiladwr, llun yn brawf o arlunydd ac y mae’r byd hwn yn brawf o Greawdwr. Ni all ddim byd ddod o ddim byd, ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol fod yna fwy i fywyd na’r hyn a welwn. Ond beth neu sut fath o un sydd wedi creu ein byd, ac efallai yr un mor bwysig, beth sydd wedi mynd o’i le gyda’n byd ni?


Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn edrych yn ein gwasanaethau ar fore Sul ym Mhenrhosgarnedd ar Iesu (medrwch wylio fideos o’r gwasanaethau ar lein). Fel Cymry mae gennym i gyd syniad pwy oedd Iesu, ac mae’n sicr wedi cael effaith ar filiynau o bobl ym mhob rhan o’r byd, ond pwy oedd e go iawn ac oes ganddo unrhywbeth i wneud gyda ni heddiw?


Wrth inni edrych ar y dystiolaeth hanesyddol rydyn ni’n sicr wedi gweld ei fod yn berson rhyfeddol. Roedd yn llawn cariad wrth ofalu am bobl, yn bwerus wrth wneud pethau na allai neb arall eu gwneud, yn hollol ymarferol wrth ddysgu, ac yn berffaith wrth sefyll i fyny yn erbyn rhagrith arweinwyr crefyddol ei ddydd. Ond efallai mai’r peth mwyaf rhyfeddol yr ydym wedi ei brofi yw ei fod yn fyw heddiw ac mae’n dod â gobaith i’n bywyd ni.


Mae wedi dod â heddwch i’n bywyd ni wrth inni brofi ei faddeuant am yr hyn sydd yn anghywir ynom.
Mae wedi dod â realiti i’n bywyd wrth inni ddod i adnabod yr un sydd wedi ein creu.
Mae wedi dod â gobaith i’n bywyd wrth inni sylwi fod yna fywyd ar ôl marwolaeth.
Mae wedi dod â rhyddid a chariad wrth inni brofi ei gariad a’i bresenoldeb yn ein bywyd.


Estynnwn felly wahoddiad cynnes i chi ymuno gyda ni ar gyfer gwasanaeth arbennig y Pasg yma. Rydan ni’n griw o Gymry cyffredin o bob oed a chefndir sy’n cyfarfod ar fore Sul ym Mangor. Bydd y gwasanaeth yn para tua awr, ac yn cynnwys darlleniadau, emynau, gweithgareddau i’r plant, bydd rhywun yn rhannu eu profiad, ac fe fydd rhan o’r Beibl yn cael ei hesbonio. Wedi’r cyfarfod bydd croeso i chi aros am baned a sgwrs, a chyfle i holi cwestiynau.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Steffan Job (steff_job@hotmail.com)

This is an invitation to a Welsh Language Easter service held by Capel y Ffynnon in Canolfan Penrhosgarnedd at 10.30 am, Sunday the 09 April. You are welcome to join us – simultaneous translation will be available.