Tymor yr Adfent 2014, 5

imageGosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (‭Genesis‬ ‭3‬:‭15‬ BCN)

A oeddwn yn rhy galed ar Efa ym myfyrdod ddoe? Hi oedd y cyfrwng i’r sarff ddwyn gofid i’n byd.  Trwyddi hi daeth pechod yn rhan o’n natur. Mae’r hanes yn Genesis yn dweud wrthym fod Adda yn gyd-gyfrifol am y bai, am nad ataliodd hi rhag bwyta; yn hytrach ymunodd gyda hi mewn gwrthryfel yn erbyn gorchymyn Duw. Ond hi gymrodd y ffrwyth. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 4

imageA phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a’i fod yn deg i’r golwg ac yn bren i’w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (‭Genesis‬ ‭3‬:‭6‬ BCN)

“A beth wyt ti isio i Sion Corn ddod i ti?” Dyma’r cwestiwn fydd yn cael ei ofyn i blant yn ddi-ben draw yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae plant yn cael eu hannog i ddychmygu beth fydden nhw’n hoffi ei gael. Dyma ran o’r edrych ymlaen, o godi’r disgwyliadau am y diwrnod mawr. (rhagor…)

Tymor yrAdfent 2014, 3

Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. (‭Luc‬ ‭2‬:‭25‬ BCN)

Roeddwn i’n meddwl ddoe am yr hiraeth sy’n bodoli yn ein calonnau. Beth sy’n troi hiraeth yn obaith, neu yn ddisgwyliad?
Bydd plant yn edrych ymlaen at y Nadolig, gan obeithio, a hyd yn oed disgwyl derbyn rhai anrhegion. Sut mae eu gobaith wedi troi yn fwy na syniad yn yr awyr – wishful thinking? Tybed nad cymeriad ac addewidion eu rhieni? Mae nhw’n adnabod eu rhieni, ac mae rheini wedi dweud wrthyn nhw bydd pethau da yn digwydd ar fore Dydd Nadolig. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 2

imageFel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (‭Salmau‬ ‭42‬:‭1‬ Cyfieithiad William Morgan)

Mae hiraeth yn un o’r geiriau hynny sy’n arbennig i’r iaith Gymraeg. Mae’n anodd ei gyfieithu – ac eto mae’n brofiad cyffedin i bawb. Mae’n mynegi rhyw anfodlonrwydd gyda’n sefyllfa, a dymuniad i fod naill ai gyda rhywbeth arall, mewn rhyw le arall, neu gyda pherson absennol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014

Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.” (‭Eseia‬ ‭40‬:‭3‬ BCN)

images (5)Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain. (rhagor…)