Meddwl am Auschwitz (3)

Wrth ymweld â’r gwersyll-garchar yn Auschwitz, un o’r effeithiau arnaf tra roeddwn yno oedd fod yna hiraeth mawr yn codi ynof am ryw arwydd o ddaioni yn wyneb yr erchyllterau mawr. Onid oedd yna rhywbeth y gallwn gymryd gafael ynddo oedd yn gwrth-ddweud y drygioni eithafol yr oedd y lle yn tystio iddo?

Y Tad Maximilian Kolbe

Y Tad Maximilian Kolbe

Fe ddois o hyd i hyn mewn man annisgwyl. Yn un o’r adeiladau cawsom ein tywys i’r llawr isaf. Yno roedd celloedd amrywiol. Roedd rhai yn ddim ond metr sgwar. Rhoddwyd carcharorion yno, lle nad oedd modd eistedd, a byddent yn gorfod sefyll am ddyddiau heb unrhyw arbediad. Roedd celloedd eraill lle gadawyd rhai heb fwyd, nes eu bod wedi marw o newyn. Yno hefydd roedd y mannau lle poenydiwyd carcharorion. (rhagor…)