Auschwitz
Meddwl am Auschwitz (7)

Caniau o’r cemegau ar gyfer y siambr nwy yn Auschwitz
Un o’r emynau y mae Cymry yn dal i’w chanu gydag arddeliad yw honno ysgrifennwyd gan Dafydd Charles, Caerfyrddin:
Rhagluniaeth fawr y nef
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw.
Dwi’n amau fod yr hwyl ar y canu fwy i’w wneud â’ r dôn na’r geiriau. Oherwydd mae’r syniad fod Duw yn trefnu pob dim yn dipyn o her, yn enwedig wrth feddwl am y dioddef yn Auschwitz.
Ble oedd Duw yn yr Holocost? Sut fedrwn ni sôn am ragluniaeth Duw wrth yr Iddewon a ddioddefodd y fath bethau erchyll? Pam fod Duw wedi caniatáu i’r Holocost ddigwydd? Os yw Duw yn Arglwydd pob dim, sut fod pethau fel hyn wedi cael digwydd? (rhagor…)





Yn dilyn fy ymweliad ag Auschwitz rai wythnosau yn ol dyma geisio gosod meddwl ar bapur, neu o leiaf ar sgrin cyfrifiadur.