Meddwl am Auschwitz (7)

Caniau o'r cemegau ar gyfer y siambr nwy yn Auschwitz

Caniau o’r cemegau ar gyfer y siambr nwy yn Auschwitz

Un o’r emynau y mae Cymry yn dal i’w chanu gydag arddeliad yw honno ysgrifennwyd gan Dafydd Charles, Caerfyrddin:

Rhagluniaeth fawr y nef
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw.

Dwi’n amau fod yr hwyl ar y canu fwy i’w wneud â’ r dôn na’r geiriau. Oherwydd mae’r syniad fod Duw yn trefnu pob dim yn dipyn o her, yn enwedig wrth feddwl am y dioddef yn Auschwitz.
Ble oedd Duw yn yr Holocost? Sut fedrwn ni sôn am ragluniaeth Duw wrth yr Iddewon a ddioddefodd y fath bethau erchyll? Pam fod Duw wedi caniatáu i’r Holocost ddigwydd? Os yw Duw yn Arglwydd pob dim, sut fod pethau fel hyn wedi cael digwydd? (rhagor…)

Meddwl am Auschwitz (3)

Wrth ymweld â’r gwersyll-garchar yn Auschwitz, un o’r effeithiau arnaf tra roeddwn yno oedd fod yna hiraeth mawr yn codi ynof am ryw arwydd o ddaioni yn wyneb yr erchyllterau mawr. Onid oedd yna rhywbeth y gallwn gymryd gafael ynddo oedd yn gwrth-ddweud y drygioni eithafol yr oedd y lle yn tystio iddo?

Y Tad Maximilian Kolbe

Y Tad Maximilian Kolbe

Fe ddois o hyd i hyn mewn man annisgwyl. Yn un o’r adeiladau cawsom ein tywys i’r llawr isaf. Yno roedd celloedd amrywiol. Roedd rhai yn ddim ond metr sgwar. Rhoddwyd carcharorion yno, lle nad oedd modd eistedd, a byddent yn gorfod sefyll am ddyddiau heb unrhyw arbediad. Roedd celloedd eraill lle gadawyd rhai heb fwyd, nes eu bod wedi marw o newyn. Yno hefydd roedd y mannau lle poenydiwyd carcharorion. (rhagor…)

Meddwl am Auschwitz (2)

Y Siambr Nwy yng ngwersyll Auschwitz

Y Siambr Nwy yng ngwersyll Auschwitz

Adroddai Primo Levi, Iddew o Eidalwr, hanes am y diwrnod y cyrhaeddodd wersyll Auschwitz. Roedd ef a’i gyd-iddewon wedi cael eu cludo gannoedd o filltiroedd ar dren mewn tryc heb fwyd na diod. Y syched oedd yr hyn oedd yn fwyaf creulon. Wedi cyrraedd y gwersyll, ynghanol gaeaf, gwelodd bibonwy o rew y tu allan i’r ffenest y cwt lle roeddent wedi eu cadw. Estynnodd amdano gan feddwl torri ei syched. Daeth milwr heibio a thynnu’r rhew o’i law. Edrychodd Primo arno a gofyn “Warum?” – Pam? Yr ateb a gafodd oedd – “Does dim “pam” fan yma.” (rhagor…)