Tymor yr Adfent 2014, 18

images (1)Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. (‭Mathew‬ ‭6‬:‭20-21‬ BCN)

Ar ddechrau llyfr mawr J. R. R. Tolkien – The Lord of the Rings – adroddir fod Bilbo a Frodo Baggins yn cynnal parti. Mae’r ddau yn cael eu penblwydd yr un diwrnod a dyma ddathliad arbennig yn dod. Ni welwyd y fath barti erioed o’r blaen yn y wlad. Ond un peth arbennig am fyd yr hobbits. Nid derbyn anrhegion a wnâi pobl ar eu penblwydd, ond rhoi anrhegion. Y tro hwn roedd Bilbo wedi trefnu anrhegion arbennig iawn i’w rhoi i’r dwsinau oedd wedi dod i’r parti. Ond roedd ganddo un trysor – y fodrwy sy’n allwedd i holl gynllun y llyfr. Ei fwriad oedd rhoi’r fodrwy hon i Frodo, ac yna mynd i ffwrdd ar daith. Mae’n dweud yn wir mai bwriad y parti a’r rhoddion eraill hael oedd ei gwneud yn haws iddo roi heibio’r fodrwy – ond yn y diwedd doedd o ddim wedi gweithio. Roedd gan y fodrwy y fath afael ar ei galon fel mai peth anodd tu hwnt oedd ei rhoi ymaith. (rhagor…)