Rhyddid a Chaethiwed

Wrth edrych ar y lluniau sy’n dod o’r Dwyrain Canol y dyddiau hyn mae’n anodd peidio cydymdeimlo â’r bobl sy’n tyrru i’r strydoedd i hawlio newid yn y gyfundrefn wleidyddol yn eu gwledydd. Wedi’r cwbl rydym ni yn y Gorllewin wedi cael mwynhau’r rhyddid mae democratiaeth yn ei ddiogelu i ni ers cymaint o amser. Ond beth yw gwir ryddid, ac ym mha le mae hwnnw i’w gael?

BAFTAS ac OSCARS

Mae’n gyfnod gwobrwyo ffilmiau, ac eleni un o’r rhai sy’n dod i’r brig ydi The King’s Speech. Ffilm sy’n olrhain brwydr y brenin Siôr y 6ed i oresgyn yr atal dweud difrifol yr oedd yn dioddef ohono. Heb os mae’n ffilm sydd wedi ei chynhyrchu’n arbennig o dda, a’r actio yn argyhoeddi – yn enwedig Colin Firth sy’n cymryd rhan y Brenin.