Mae’n gyfnod gwobrwyo ffilmiau, ac eleni un o’r rhai sy’n dod i’r brig ydi The King’s Speech. Ffilm sy’n olrhain brwydr y brenin Siôr y 6ed i oresgyn yr atal dweud difrifol yr oedd yn dioddef ohono. Heb os mae’n ffilm sydd wedi ei chynhyrchu’n arbennig o dda, a’r actio yn argyhoeddi – yn enwedig Colin Firth sy’n cymryd rhan y Brenin. Caiff y gwylwyr eu denu i mewn i’w boen wrth iddo fod â rhywbeth i’w ddweud, ond mae’r geiriau yn gwrthod dod – mae ei dafod wedi ei chlymu.

Ond dychmygwch senario wahanol – Brenin sydd yn gallu dweud ei neges yn gwbl glir, ond does neb yn cymryd sylw ohono. Y broblem yma, yn hytrach na thafod y llefarwr, yw clustiau’r gwrandawyr. Dyma oedd y sefyllfa yr wythnosau diwethaf yn yr Aifft.Roedd yr Arlywydd Mubarak yn llefaru, ond doedd neb am wrando ar ei neges. Doedd neb am ei glywed. Yr unig ffordd i fodloni’r bobl oedd iddo fynd, a throsglwyddo awennau’r llywodraeth i ddwylo eraill.

Beth ydi sefyllfa Cymru – ac nid sôn am wleidyddiaeth ydw i. Mae yna Frenin – byddai’r hen bobl yn defnyddio’ enw “Brenin Mawr”. Bu amser pan oedd Duw yn cael ei gydnabod yn Frenin yn ein gwlad. Ond rhywsut does fawr neb yn cymryd sylw ohono bellach. Beth sydd wedi digwydd?

Ydi Duw fel y Brenin Siôr efo atal dweud, ac yn methu cael ei neges drosodd? Choelia i fawr! Pan oedd Moses yn cwyno na fedrai fynd at Pharo oherwydd ei fod yn methu siarad yn rhydd, yr ateb roddwyd iddo oedd: “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a’i gwna yn fud neu’n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr Arglwydd?”  (Exodus 4:11) Mae neges Duw yn glir a syml. Fe lefarodd gyda chenedlaethau o Gymry, fel ag y mae’n llefaru wrth filiynau o bobl heddiw ar draws y byd.

Onid y gwir ydi fod y mwyafrif o Gymry wedi dewis peidio gwrando. Mae nhw wedi dewis credu nad oes gan Dduw’r Beibl unrhywbeth i’w ddweud wrthyn nhw. Fel gyda phobl yr Aifft, mae nhw wedi dweud mai’r hyn y mae nhw am ei weld yw’r llywodraeth yn eu dwylo nhw eu hunain, a Duw’n diflannu dros y gorwel.

Ond fan yma mae’n rhaid i ni dynnu gwahaniaeth rhwng Cymru a’r Aifft. Doedd gan Mubarak ddim dewis ond diflannu. Ond nid meidrolyn gwan, di-awdurdod ydi Duw. Dyma Arglwydd yr Arglwyddi, gyda phob awdurdod yn ei ddwylo ei hunan. Fe adroddodd Iesu ddameg am rai fynnodd wrthryfela yn erbyn eu Meistr. (Efengyl Marc Pennod 12) Roedd ganddo winllan yr oedd wedi ei gosod iddyn nhw, ond fe fynnodd y rhain wrthod ei gydnabod. Beth oedd canlyniad y gwrthod?

Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill.

Ydi, mae Duw yn Frenin, a doethineb fyddai gwrando arno. Fe ddisgrifir Iesu Grist fel y Gair a ddaeth yn gnawd. Byddai dechrau darllen ei hanes o ar ddechrau’r Testament Newydd yn fan cychwyn gwych. Neu beth am ymuno gyda ni yma yng Nghapel y Ffynnon. Fe fyddem wrth ein bodd yn eich croesawu i’n plith.

Fel mae’r proffwyd Eseia’n ei ddweud “Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos”.

Categories: Uncategorized

0 Comments

Gadael Ymateb

Avatar placeholder