Nadolig
Nadolig Llawen unwaith eto?
Nadolig Llawen unwaith eto! Na, tydw i ddim wedi drysu, ond mae’r Eglwys Roegaidd, ac felly llawer o Gristnogion yn Nwyrain Ewrop, yn dilyn yr hen drefn. Cyn newid o galendr Iŵl i’r calendr Gregoraidd roedd Rhagfyr 25ain yn disgyn ar y diwrnod sydd bellach yn cyfateb i Ionawr 7fed. Felly heddiw yw’r diwrnod mae nhw’n dathlu, (rhagor…)
Darllenwch Salm 139:13-18
Darllenwch 1 Thesaloniaid 4:13-18
Darllenwch Luc 2:36-38
Darllenwch Luc 2:15-20
Darllenwch Mathew 2:12-18
Daethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (Mathew 2:11 BCN)
“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (Mathew 28:20 BCN)
A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. (Mathew 2:10 BCN)
Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg.