Credu fel dod adref

Thema’r sylwadau hyn yw “pam credu?”. Un o’r rhesymau sydd gennyf dros gredu yw fod efengyl Iesu Grist yn ateb syched dwfn yn fy nghalon.

800px-Fra_angelico_-_conversion_de_saint_augustinUn o’r pethau sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y degawdau diwethaf yn y Gorllewin yw nad yw pobl yn gallu bodloni ar gredu mai deunydd plaen – atomau a moleciwlau materol yn unig – ydym. Mae yna ryw hiraeth am yr “ysbrydol”. Mae yna reddf ynom sy’n golygu bod yna syched yn ein calonnau am fwy na bwyd, iechyd a diogelwch. (rhagor…)

Credu mewn awdurdod?

Y tro diwethaf roeddwn yn cyfeirio at y cyhuddiad gan rai mai rhyw power play oedd crefydd a chred yn Nuw, gan rai mewn awdurdod i geisio cadw eraill o dan eu rheolaeth. Yn sicr mae’r eglwys wedi defnyddio ei hawdurdod ar adegau mewn ffyrdd cwbl anghywir, a does dim modd amddiffyn hynny. Fodd bynnag y cwestiwn sydd raid ei holi yw: Ai credu yn Nuw ydi’r rheswm fod pobl yn cam-ddefnyddio awdurdod? (rhagor…)

Credu Ymarferol?

Cwestiwn arall i ni ei ystyried wrth feddwl am yr hyn a gredwn yw hwn: A fedra i fyw gyda’m cred? Beth yw canlyniad credu fel y gwna’r Atheistiaid Newydd ac a oes modd byw yn ôl y gred honno?

francis-crickYn gyntaf, mae’n ymddangos yn gred ddigalon iawn. Mewn dyfyniad enwog o eiddo Francis Crick, (a ddarganfyddodd strwythur DNA gyda’i gydweithiwr James Watson) dywedodd: “ ‘You,’ your joys and your sorrows, your memories and your ambitions, your sense of personal identity and free will, are in fact no more than the behaviour of a vast assembly of nerve cells and their associated molecules. Who you are is nothing but a pack of neurons.” (The Astonishing Hypothesis: The Scientific Search for Soul (1994)) (rhagor…)

Credu afresymol?

Richard Dawkins

Un o ladmeryddion mwyaf llafar yr Atheistiaeth Newydd yw Richard Dawkins. Yn ei farn ef nid oes unrhyw un sydd yn barod i feddwl yn gallu credu yn Nuw. Mae gennym gymaint o wybodaeth am y byd a’r bydysawd bellach fel bod cred yn Nuw yn amlwg yn ofergoel i unrhyw un sy’n defnyddio gronyn o synnwyr cyffredin. Mae’n apelio yn arbennig at wyddoniaeth i honni mai peth afresymol yw credu. (rhagor…)

Cyfres Newydd

Gyda thymor y Nadolig drosodd daeth y gyfres o ddefosiynau dyddiol i ben. Gobeithio i chi gael y myfyrdodau yn gymorth wrth ddathlu. Byddaf allan o gyrraedd y we am y cwpl o ddyddiau nesaf, felly ni ddaw cyfle i ddiweddaru’r blog yn ddyddiol. Ond gobeithio cyn diwedd yr wythnos y byddaf yn gallu ail afael yn yr ysgrifennu.

Question-MarkYn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl? (rhagor…)