Y rheilffordd yn arwain i fynedfa gwersyll BirkenauY rheilffordd yn arwain i fynedfa gwersyll Birkenau

Soniais y tro diwethaf am ymweld â gwersyll Auschwitz. Nid wyf am ddweud llawer eto am yr ymweliad hwnnw – daw hynny wedi i mi gael ystyried mwy ar yr hyn a welwyd. Ond rwyf am gyfeirio at ddau beth penodol am yr hyn y bupm yn ei drafod. Yn gyntaf, roedd y ferch oedd yn ein tywys oddi amgylch y gwersyll wedi denu ein sylw am ddau reswm. Daria oedd ei henw, ac mae’n amlwg nad job o waith oedd ein tywys oddi amgylch.

Roedd yn teimlo ei chyfrifoldeb i’r byw, ac yn awyddus ein bod yn deall arwyddocad y cyfan. Bu rhai y llynedd gyda thywysydd gwahanol, ac roeddent yn dweud fod y gwahaniaeth yn rhyfeddol. Yn ail, rhannodd gyda ni bod ei mam yn wael. Mae ganddi diwmor ar yr ymennydd, a does neb yng ngwlad pŵyl yn gallu ei thrin yn iawn. Felly cawsom gyfle i weddio drosti, ac addawyd y byddem yn gweddio adref hefyd, a rhai yn ceisio gweld os y gallai gael triniaeth rhywle arall. Roedd ei hymateb i’n consyrn yn gynnes a gwerthfawrogol.

Yr ail beth i’w ddweud am ein trafod yw ein bod wedi gweld ffilm wedi i ni ddychwelyd i’r gwesty – Weapons of the Spirit – am bentref bach yn Ffrainc o’r enw Chambon. Roedd trigolion y pentref o gefndir huguenot, gyda’r rhan fwyaf yn Gristnogion. Fe ddaru nhw achub tua 8000 o Iddewon rhag y Natsiaid yn ystod y rhyfel. Roedd gweld symlrwydd y ffydd fyw oedd gamddyn nhw, a’u clywed yn siarad yn rhoi gobaith yn wyneb yr echyllderau a welsom yn y bore.
 
Gyda’r hwyr cawsom ymuno gyda gweddill y cynadleddwyr ar gyfer cyfarfod cyntaf y Fforwm llawn. Mae tua 750 ohonom yma, o dros 40 gwlad wahanol. Mae sefyll i adrodd gyda’n gilydd Ioan 3:16, bob un yn ei iaith ei hun, yn rhagflas o’r nefoedd. Buom yn canu rhai caneuon/emynau cyfoes. Yna cawsom anerchiad gan Nola Leach. Mae hi’n gyfarwyddwr mudiad CARE, a byrdwn ei neges oedd, yn wyneb y newid awyrgylch sy’n digwydd yn Ewrop mae angen i Gristnogion wynebu eu cyfrifoldeb ym meysydd y gyfraith, addysg ac eraill. Os na wnawn, yna fe fyddwn yn cerdded yn ein cwsg i sefyllfa lle nas goddefir safonau Cristnogol yn ein cymdeithas – rhywbeth sydd eisioes wedi dechrau mae sawl maes. 
 
Un o’r pethau braf am y gynhadledd yw cael cymdeithas gyda Christnogion o gefndiroedd cwbl wahanol. Rwy’n rhannu ystafell y tro hwn gyda Paul Hermes, gweinidog wedi ymddeol sy’n byw yn y swistir. Bu’n athro ffiseg am fkynyddoedd cyn mynd i’r weinidogaeth, a bellach mae’n mentora ac arwain nifer o weinidogion ifanc yn ardal Lausanne.