Dydd Sul

Yr Athro John Lennox

Yr Athro John Lennox

Dechreuodd y diwrnod gyda brecwast am 7.00 y bore yn mentora gŵr ifanc o Latvia. Yna, wedi awr o drafod ei sefyllfa a cheisio cynnig doethineb a chyngor, dyma fynd i gyfarfod llawn cyntaf y diwrnod. Roedd hwn yn cael ei arwain gan Stefan Gustavson, sy’n dod o Sweden. Mae ei hiwmor bob amser yn gafael mewn pobl, ac fel arfer wedi ei gyfeirio tuag at bobl o Norwy. Ond roedd ochr ddifrifol iawn hefyd wrth iddo ein harwain i ystyried gras Duw. Yna daeth John Lennox ymlaen i’n harwain i edrych ar y Beibl.

Ei thema yw Abraham, a heddiw roedd yn gosod tad cenedl Israel, a thad y rhai sydd o ffydd, yn ei gyd-destun yn y Beibl. Roedd celloedd yr ymennydd yn tasgu wrth iddo agor drysau i gwestiynau mawr am natur ffydd, a’r modd y mae cymdeithas heddiw yn adlewyrchu’r hyn ddigwyddodd yn hanes Nimrod a Babel.
Wedi’r cyfarfod cyntaf hwn roeddem yn rhannu i’n gwahanol ffrydiau ar gyfer gweddill y bore. Mae pump ar hugain o wahanol ffrydiau, yn cynnwys ffrwd i bregethwyr, cynghorwyr, gwyddonwyr, efengylu, plannu eglwysi etc. Rwyf fi yn y ffrwd sy’n trafod apologeteg lefel uwch. Cawsom bapur ar y syniad fod yr apêl at hapusrwydd yn rhywbeth y gallwn ni fel Cristnogion ei ddefnyddio i gyflwyno Crist. Yn hytrach na dweud fod ceisio hapusrwydd yn porthi hunanoldeb, mae modd dweud mai’r ffordd i fodlonrwydd a bywyd gwerth ei fyw yw ceisio’r hapusrwydd mae Duw am i ni ei brofi. Yna wedi paned o goffi cawsom sessiwn gan Stuart McAllister ar ail-feddwl ein hapologeteg. Daw cyfle eto efallai i egluro mwy. Roedd y sessiwn olaf hon yn gynorthwyol iawn, yn ein herio i feddwl am ddefnyddio ein dychymyg i gyfleu gwirioneddau Cristnogol.
Yna cefais fynd am ginio gyda John Kirkpatrick, cyfaill sy’n weinidog ym Mhortrush yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yn gyfle i gael gwybod beth yw ei hanes, ac i rannu ein syniadau am yr hyn roeddem wedi ei glywed yn y bore.

Wedi cinio roedd cyfle i fynd i seminar, ond dewisais orffwys ychydig, ac ysgrifennu ychydig o hanes y gynhadledd. Yna am bedwar o’r gloch dyma fentro i weithgor arall oedd yn cael ei arwain gan yr athro William Edgar. Mae’n athro apologeteg yn Athrofa Ddiwinyddol Westminster yn ry UDA. Mae hefyd yn bianydd jazz o fri. Roedd yn trafod yr agoriadau sy’n bodoli yn Ewrop ar gyfer yr efengyl heddiw. Olrheiniodd hanes a chefndir Ewrop, cyn mynd ati i sôn am y cyfleon sy’n bodoli heddiw.

Roedd y pryd nos yn gyfle eto i fentora – y tro hwn gweinidog ifanc o’r weriniaeth Tsiec. Roeddwn yn adnabod nifer o’r rhai yr oedd ef yn gyfarwydd â hwy, a chawsom awr o drafod dwys ac adeiladol tros fwyd. Yna roedd rhaid mynd yn syth i’r cyfarfod nos. Fe soniaf am hwnnw yn y cofnod nesaf.