Dydd Llun.

Wedi brecwast am 7.00 roedd y prif gyfarfod am 8:15. Roedd John Lennox yn ein harwain eto drwy hanes Abraham. Y tro hwn dilynwyd y patriarch o’i alwad (Genesis 11:1) ymlaen i’r Aifft lle cafodd ei geryddu oherwydd Sarai, ymlaen i’r rhyfel lle achubodd Lot, a’i gyfarfyddiad gyda Melchisedec. Roedd llawer o gymhwyso ymarferol yma, a her i ystyried ein perthynas â’n gwragedd/gwŷr, ein eiddo, a’n uchelgais.
 

Yr Athro William Edgar

Yr Athro William Edgar

Yn dilyn hyn aethom i’n ffrydiau lle cafwyd darlith gan William Edgar ar ddeall drygioni’r byd yng nghyd-destun yr hyn ddigwyddodd yn Auschwitz. Gan fy mod wedi cael dipyn o hyn dros y penwythnos, doedd y sessiwn ddim mor fuddiol i mi ag i eraill yn y ffrwd. Yna cawsom ddarlith gan Greg Koukl, y soniais amdano ddau ddiwrnod yn ôl. Ei arbenigedd ef yw dadlau o blaid Cristnogaeth yn wyneb gwrthwynebiad gan eraill. Roedd yn trafod “goddefgarwch”, a’r modd y mae’r gymdeithas wedi newid ystyr y gair. Bellach aeth yn arf yn nwylo rhai i golbio unrhyw rai sy’n anghytuno â hwy. Daeth goddefgarwch yn enw cywirdeb politicaidd yn anoddefgarwch tuag at rai o safbwynt gwahanol.

 
Dros ginio bum yn mentora gweinidog o’r Iwcraen. Roedd yn gobeithio bod yr etholiad yr wythnos hon yn mynd i roi cychwyn newydd i’r wlad. Roedd ei awydd am gael mentora yn seiliedig nid ar broblemau ei wlad, ond ar y sefyllfa yn ei eglwys ei hun. Yr un yw’r anghenion, ble bynnag yr awn, a gobeithio i mi roi cyngor fyddai’n gymorth iddo.
 
Wedi cinio roedd yna arddangosfa gan nifer o fudiadau, er mwyn i ni weld os oedd modd  eu defnyddio yn ein sefyllfa ni. Un o’r mudiadau hyn oedd mudiad yn Serbia yn cael ei redeg gan Vesna Radeka, un o’m cyfeillion – mudiad “bywyd” yn gweithio i helpu merched i beidio cael erthyliad. Yn Serbia mae 150,000 o blant yn cael eu herthylu bob blwyddyn, a 70,000 o blant yn cael eu geni. Mae’n mynd i ysgolion i addysgu plant am ryw, ac yn cynnig llawer o gefnogaeth i ferched ifainc sy’n darganfod eu bod yn feichiog. Roeddwn yn meddwl bod eu harwyddair yn arbennig: “Creating a world where every child is welcomed”.
Vesna ar ei stondin

Vesna ar ei stondin

Bum mewn seminar arall yn y prynhawn gyda William Edgar yn trafod Gweddi’r Arglwydd. Gan fy mod newydd orffen cyfres o bregethau ar y weddi hon (mae nhw ar gael i’w lawrwytho o’r wefan), roeddwn â diddordeb i wybod beth oedd ganddo i’w ddweud.
Yna amser bwyd roeddem yn eistedd yn ôl ein gwledydd. Felly roeddwn i gyda Jonathan Stephen a Joel Morris o goleg WEST yn cyd-fwyta a thrafod.
 
Gyda llaw, soniais am Daria, yr hogan wnaeth ein tywys oddi amgylch gwersyll Auschwitz, a’i mham sy’n dioddef gyda thiwmor ar ei hymennydd. Bellach mae llawfeddyg ar y gynhadledd hon (neurosurgeon) wedi cynnig ei helpu. Dyna ateb sydyn i weddi!