Llun o un o'n prif gyfarfodydd

Llun o un o’n prif gyfarfodydd

Neithiwr (nos Lun) treuliais beth amser gyda chyfeillion o Albania. Mae Zef ( sydd wedi ymweld a’r eglwys ym Mangor) wedi llwyddo i ddod â deg draw gydag o i’r fforwm. Felly roedd yn braf siarad gydag o ac Edita, ei wraig, ac Altin, ei gyd-henuriad yn yr eglwys yn Tirana.

Bum hefyd yn sgwrsio  â Monty – pennaeth IFES yn Iwerddon – felly cawsom siarad am Catrin Carolan (Petherbridge gynt). Hefyd roedd yn son am Hannah, fydd yn mynd allan i Slovakia wedi’r haf i dreulio blwyddyn gyda Heledd yn ceisio gweithio i BBH – y mudiad Cristnogol ymhlith y myfyrwyr.

 
Amser brecwast bum yn mentora dau weinidog – Daniels o Latfia, a Lefter o Tirana. Yna buom yn gwrando ar John Lennox yn parhau i olrhain hanes Abraham. Mae John gyda’r ddawn i weld cysylltiadau rhwng gwahanol hanesion â rhannau eraill o’r ysgrythur. Mae wedi hau llawer o hadau yn y meddwl i ni geisio gweithio’r cyfan allan yn fwy manwl.
Roedd y sgyrsiau yn ein ffrwd apologeteg yn arbennig o dda heddiw. Yn gyntaf cawsom David Robertson yn son am apologeteg drygioni – mae’r ffaith fod drygioni yn y byd yn ddadl o blaid Duw. Mae David â dawn arbennig i egluro pethau. Mae’n feddyliwr praff a chwim. Mae’n aml yn cael ei wahodd i drafod y ffydd gydag anffyddwyr, ac yn un o leisiau amlycaf yr Alban o blaid y ffydd. Wedyn daeth Jay Smith i sôn am y datblygiadau diweddaraf ym maes edrych ar y dogfennau cynnar o’r Q’uran. Cawsom ein synnu fel ag y mae ysgolheigion Moslemaidd yn gweld fod y Q’uran fel ag y mae ar gael heddiw wedi ei greu ddau can mlynedd wedi amser Mohammed. Roedd yr hyn roedd yn ei egluro yn herio sylfeini’r ffydd Islamaidd.
Amser cinio bum yn mentora gŵr ifanc sy’n gweithio yn yr Alban, a phrynhawn yma cefais fynd i seminar gan un o arbenigwyr mwya’r byd ar Francis Schaeffer, sef Bruce Little, yn siarad.
Rhai o'r cynadleddwyr yn ELF

Rhai o’r cynadleddwyr yn ELF

Amser bwyd heno roeddwn yn mentora eto – gŵr ifanc o Hwngari yn ceisio dewis rhwng galwad i blannu eglwys newydd ym Mudapest neu fynd i eglwys tua 70 cilomedr y tu allan i’r brifddinas i fod yn weinidog cynorthwyol. Buom yn trafod sawl agwedd o’r weinidogaeth gyda’n gilydd.
Heno daeth pawb at ei gilydd ar gyfer addoliad, a chlywed Greg Koukl yn sôn am sut mae herio syniadau’r rhai sy’n credu nad oes dim byd mwy na mater. Mae ganddo ddawn i ddadlau achos, a roedd yn ddigon bywiiog a hwyliog i ni fwynhau ei sgwrs.