Rhai o'r cynadleddwyr yn ELF

Rhai o’r cynadleddwyr yn ELF

Rwyf bellach ar fy ffordd adref o Wisla. Roedd y cyfarfod olaf yn gyfle braf i ni gyd addoli gyda’n gilydd – dros 40 o genhedloedd gwahanol, a’r tro hwn roedd nifer dda o’r gwirfoddolwyr sy’n peri bod y gynhadledd yn rhedeg yn esmwyth wedi ymuno gyda ni. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn dod o’r UDA. Bydd llawer ohonyn nhw yn rhoi heibio yr ychydig wyliau sydd ganddynt, a phawb yn talu ei ffordd ei hun. Maent yn ein tywys, yn paratoi taflenni di rif o wybodaeth, recordio’r cyfarfodydd ar sain ac ar fideo fel eu bod ar gael i ni wedyn, trefnu ein teithio nol a mlaen i’r maes awyr, gweddio a llu o bethau eraill. Gwerthfawrogir eu cyfraniad yn fawr.

Yn y cyfarfod hwn rhoddwyd cyfweliad i Vesna, y soniais amdani ychydig o ddyddiau yn ol. Mae’r hanes amdani yn dechrau ar y gwaith o gynnig gofal i ferched sy’n disgwyl yn arbennig – ond rhoddodd rai ystadegau brawychus i ni. Yn Serbia lle mae’n gweithio mae 70,000 o blant yn cael eeu geni bob blwyddyn, ond 150,000 yn cael eu herthylu. Bob blwyddyn amcangyfrifir fod 42 miliwn o blant yn cael eu herthylu yn y byd. Tydi croth y fam ddim yn lle diogel i blant yn ein dyddiau ni! Does dim rhyfedd fod hyn wedi ei ddisgrifio gan amryw fel yr holocost distaw. Soniodd Vesna am ei gwaith yn helpu mamau ifainc mewn argyfwng, gan gyfeirio at y llawenydd o weld mam gyda phlentyn byw, yr oedd wedi bwriadu ei erthylu. Soniodd am y llawenydd mwy o weld y mamau hyn yn aml yn rhoi eu ffydd yn yr Arglwydd Iesu, ac yn dechrau gwneud penderfyniadau doeth ar eu cyfer hwy a’u plant.

Rhoddwyd yr anerchiad yma gan Peter Akinola. Dyma un a fu yn arwain yr eglwys Anglicanaidd yn Nigeria. Mae ef ei hun wed cael ei gipio yn y gorffennol a dim ond dianc gyda’i fywyd. Ef hefyd fu’n arwain yr Anglicaniaid sydd wedi bod yn gwrthwynebu y symudiadau yn yr eglwys honno yn Lloegr, Canada a’r UDA. Roedd yn ein hannog i sefyll yn gadarn, er mwyn ail ennill Ewrop i Grist.

Wedi’r cyfarfod hwn roedd pawb yn amharod i adael, gan ein bod i gyd yn ceisio ffarwelio a’n gilydd. Ond roedd angen i mi beidio bod yn rhy hwyr yn noswylio, gan fod taxi yn fy nol am 3.00 y bore i fynd i’r maes awyr.

Ar y ffordd i Katowice bore ma fe dorrodd y taxi i lawr rhyw awr o’r maes awyr, a bu’n rhaid cael un arall i’m nol. Ond cyrhaeddais yn ddiogel, a bellach rwyf ym maes awyr Frankfurt yn cael cyfle i ystyried y cyfan a welais wrth ddisgwyl rhai oriau am yr awyren fydd yn fy nghludo nol i Fanceinion.