Cenhadaeth fyd-eang

Cenhadaeth fyd-eang

Roedd dau ddiwrnod olaf y gynhadledd eto yn fendithiol a heriol tu hwnt. Mae Corff Crist yn cyflawni pethau mawr mewn pob math o sefyllfaoedd. Mae gallu Duw yn rhyfeddol, ac yn datrys problemau sydd y tu hwnt i ddoethineb ddynol.

Mae’r cwpl cyntaf fuodd yn siarad â ni fore dydd Iau ( Robert a Sue Lightowler) yn gweithio gyda rhai sydd wedi cael eu camdrin yn rhywiol, neu wedi eu dal yn y fasnach rhyw. Mae nhw wedi eu lleoli yn Llundain, ac eto yn gweld eu gwaith yn ymestyn allan yn ryngwladol. Roedd hanesion torcalonnus am wragedd wedi eu dal mewn caethiwed i gyffuriau, ac yn gwerthu eu cyrff, neu eraill wedi eu dal mewn perthynas lle roedden nhw’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid. Roedd eraill yn ddynion yn y carchar wedi cael eu cam-drin fel plant. Pa obaith oedd i’r rhain pan oedden nhw wedi colli ymddiriedaeth ym mhawb? Ond yna roedd tystiolaeth o’r ymateb rhyfeddol pan roedden nhw’n dod ar draws pobl oedd am wneud dim ond estyn cariad Duw tuag atyn nhw yn ddi-amod, yn dangos fel ag y mae modd i’r eglwys lwyddo lle mae pob dim arall yn methu.

Buom wedyn yn Affrica, yn Sierra Leone gyda dau ifanc sy’n gweithio yno, y naill (Jayne) sy’n gweithio yn bennaf gyda phlant, a’r llall (Joel) yn gweithio gyda’r dynion ifanc yn meithrin arweinwyr a phregethwyr i’r eglwys. Eu gofid pennaf ar y funud yw’r pla Ebola, sy’n golygu efallai na chânt ddychwelyd yno am amser.

Cawsom ddarlun o’r sefyllfa yn Uganda gan ddwy feddyg, y naill (Natasha) sydd newydd ddychwelyd i’r wlad hon wedi cyfnod mewn ysbyty Kiw Oko, a’r llall (Beca Jones o ardal. Caerfyrddin) sydd ynghanol ei thymor yno.

Buodd Ben a Liz Griffin yn sôn am eu gwaith yn Burkina Faso yn y brifddinas (Wagadugu – dyna chi enw i’w gofio ar gyfer cwis gwybodaeth gyffredinol!). Cawsom fynd i’r rhan a adnabyddir fel Corn y Cyfandir (the Horn of Africa), sef Ethiopia a Somalia, gydag Andrew ac Ann Mitchell. Roedden nhw’n sôn am y gwaith dyngarol mae nhw’n ei wneud yn y wlad mwyaf poeth, mwyaf sych a mwyaf llychlyd yn y byd! Roedden nhw yn arbennig yn gofyn am weddi na fyddai’r radicaliaid eithafol yn dod i fyny i ogledd y wlad i aflonyddu ar y gwaith.

Daethom yn ôl i gyfandir Ewrop i glywed am y gwaith yn Ffrainc gydag Alan a Pat Davey, sydd ar fin dychwelyd i Bordeaux wedi cyfnod yn y wlad hon. Un o’r pethau trawiadol oedd pan soniodd Alan am ei gyfnod o burnout, gyda rhybuddion i’r cenhadon ifanc i wylio. Clywsom hefyd am y gwaith gyda’r myfyrwyr ym Mordeaux gan Fiona sydd newydd ddod yn ôl ar ôl wyth mlynedd yno, a Grace (Pooley).

Cafwyd gyfweliadau gyda rhai sydd ar fîn cychwyn eu gwaith dramor, a c yn olaf cawsom glywed am brosiect Hundredfold, sef prosiect i ddefnyddio technoleg fodern i alluogi cenhadon i rannu’r efengyl. Mae potensial y gwaith hwn yn rhyfeddol, gan mai un o’r teclynau mwyaf cyffredin yn y byd bellach yw’r ffon symudol. Mae tîm o pointy headed Geeks (eu dusgrifiad nhw ohonyn nhw eu hunain yw hyn!) yn gweithio ar brosiectau i gael fersiwn o’r Beibl, y ffilm Jesus,  a chyrsiau hyfforddi Cristnogol ar gael i’w defnyddio ar y ffonau symudol hyn. Mae’r gwaith yn arloesol, a modd i gyrraedd pobl yn y gwledydd cauedig gyda’r efengyl.

Rwy’n sylweddoli fod y blog hwn yn ymddangos fel dim mwy na rhestr o bethau sy’n digwydd. Ond yr hyn roedd y gynhadledd yn ei wneud oedd dangos fod Duw yn adeiladu ei eglwys drwy’r byd i gyd. Does dim un man lle na allwn ofyn i Dduw anfon ei bobl. Roedd hyn yng nghyd destun gweld y bobl eu hunain – eu strygls, eu ymdeimlad o wendid, ac eto eu hymroddiad llawn i roi eu bywydau yn llaw Duw iddo wneud yr hyn a fynno gyda nhw. Dyma rainoedd yn trysori trysor yn y nef, a rhan o her y cyfan yw, beth ydym ni yn ei wneud yma.

Ar fore olaf y gynhadledd buom yn gweddïo eto gyda’n gilydd cyn brecwast, ac yna yn ymgasglu o gwmpas y Gair dan arweiniad David Magowan cyn cyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda’n gilydd. Yr enw ar y gymhadledd yw UFM Family Conference. Mae’n enw addas gan ein bod yn ymdeimlo â bod yn rhan o deulu byd-eang, wedi ein dwyn i fod yn frodyr a chwiorydd drwy aberth rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist yn marw drosom ar y groes.