Cynhadledd UFM 3

Rhai o'r cynadleddwyr

Rhai o’r cynadleddwyr

Un o fendithion y gynhadledd hon yw’r cyfle ddaw i siarad gyda phobl mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae yma gefnogwyr sydd wedi bod yn gweddïo’n ffyddlon dros genhadon ers blynyddoedd. Mae gweld eu diddordeb nhw, a’u ffyddlondeb yn pwysleisio undod y gwaith. Mae i bob un ei ran – y rhai sy’n mynd o’u cynefin i fod yn genhadon, a’r rhai sy’n aros yma i’w cyflwyno’n gyson i ras Duw. (rhagor…)

Cynhadledd UFM 2

Heledd yn sôn am ei gwaith

Heledd yn sôn am ei gwaith

Mae’r golwg ar waith Duw mewn gwahanol wledydd yn hynod o gynorthwyol fan yma. Mae gennym ni’r Cymry allu rhyfeddol i weld ein problemau ni fel rhai mwy na phawb arall. Mae gweld y sialensau mae pobl eraill yn eu hwynebu, a’r hyn mae Duw yn ei wneud trwy bobl eraill yn gallu ein codi o’n hunan-dosturi a’n parlys. (rhagor…)

Cynhadledd UFM

imageYr wythnos hon rwyf wedi teithio i Hothorpe Hall ynghanol Lloegr ar gyfer cynhadledd deuluol UFM Worldwide. Dyma’r genhadaeth rwyf fi a Heledd yn gysylltiedig â hi. Mae nifer dda ohonom wedi dod ynghyd, gan gynnwys nifer fawr o genhadon UFM. Felly mae’n gyfle arbennig y glywed am yr hyn sy’n digwydd mewn gwahanol,rannau o’r byd. (rhagor…)