imageWedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” (‭Luc‬ ‭2‬:‭15‬ BCN)

Wrth fynd â’r ci am dro yn gynnar bore ma, roedd yr awyr uwch fy mhen yn glir. Roedd cymylau a glaw ddoe wedi diflannu a’r sêr yn disgleirio. Roedd yn hawdd dychmygu’r bugeiliaid hynny dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl ar fryniau Jwdea yn gwylio’r un sêr, ac yn gofalu am eu praidd.

Bachgen o’r dref ydw i, ond mae nifer o fy nheulu yn ffermwyr, a threuliais dros chwe mlynedd fel gweinidog allan yn y wlad gyda mwyafrif aelodau’r eglwysi yn ffermwyr. Felly rwyf wedi gallu dysgu rhywfaint am fyd bugail a defaid. Un peth a ddysgais yw na fedrwch chi ddim gadael defaid heb ofal. Mae nhw ymhlith y creaduriaid mwyaf dwl y gallwch ddod o hyd iddyn nhw. Mi fyddan nhw yn barod i grwydro – wn i ddim sawl tro y gwelais i rai wedi cyrraedd gardd drws nesaf i ni, rhywsut yn credu fod y blodau roedd Violet wedi eu tyfu mor ofalus yn fwy maethlon na’r borfa dda ar lethrau’r Berwyn. Mi wnaiff un ddafad weld twll yn y clawdd a mentro drwyddi, ac fe fydd y lleill i gyd yn dilyn yn di-feddwl. Mae nhw’n crwydro i fannau peryglus, a dim ond gofal cyson y Bugail all eu cadw. Does ganddyn nhw ychwaith ddim ffordd o amddiffyn eu hunain. Does yna’r un llwynog, blaidd neu arth yn ofni yn wyneb brefiadau’r defaid. Creaduriaid di-amddiffyn, sydd angen eu gwylio yn gyson ydyn nhw.

Eto, yn nhawel wlad Jiwdea dlos, fe adawodd y bugeiliaid hyn eu praidd. Cofiwch, pe digwyddai rhywbeth i’r defaid, gallai’r perchnogion hawlio eu gwerth oddi ar y bugeiliaid esgeulus. Mae’r proffwyd Sechareia yn dweud: “Gwae’r bugail diwerth, sy’n gadael y praidd.”  (‭Sechareia‬ ‭11‬:‭17‬ BCN) Os gwnaeth rhain yn wir fentro o’r bryniau i Fethlehem yna mae’n rhaid eu bod nhw wedi eu perswadio fod yna rhywbeth mawr wedi digwydd. Dim ond rhywbeth fel ymweliad angel fyddai wedi eu tynnu oddi wrth eu cyfrifoldeb a’u bywoliaeth.

Yr un modd mae’n rhaid fod yna argyhoeddiad dwfn ym meddyliau’r sêr ddewiniaid, iddyn nhw fentro ar daith bell, digon ansicr a pheryglus, i geisio Brenin yr Iddewon gyda’u anrhegion drud.
Dyma bobl wnaeth fwy na chymryd rhyw hoe fach i fod yn grefyddol am ddiwrnod neu ddau. Fe adawodd rhain bethau pwysig, er mwyn ceisio’r peth pwysicaf.

Ydech chi wedi gorffen eich paratoi eto? Oes yna rhywbeth pwysig ar ôl i’w wneud? Does dim byd pwysicach na’ch bod yn ystyried arwyddocád y baban bychan hwn a anwyd. Os mai hwn yw’r Meseia, yr un y mae posib cael eich cymodi â Duw trwyddo, fydd rhoi rhyw ychydig o amser i wrando ar garol ddim yn gwneud y tro. Fe ddywedodd C. S. Lewis, awdur llyfrau Narnia, ac ysgrifenwr amlwg yn y ganrif ddiwethaf ar Gristnogaeth: “Os yw Cristnogaeth yn ffals yna does dim pwysigrwydd o gwbl iddo; os yw’n wir yna mae o bwysigrwydd anfeidrol. Yr hyn na all fod yw o bwysigrwydd cymhedrol”

Gadewch i ni gofio geiriau’r Gwaredwr wrth Martha, pan oedd yn poeni nad oedd yn cael help ei chwaer i gael trefn ar y cinio:  “Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau, ond un peth sy’n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni.” (‭Luc‬ ‭10‬:‭41-42‬ BCN)

Gwelsom ei seren ef

Ai doeth wyf fi i deithio – a dilyn
Dy olau di heno
O gysur byd, i geisio
Disgleirdeb ei wyneb O?

Un wyneb yn fy nenu – un hiraeth
Yn arwain i’r beudy;
Un arwydd, ac un wyry,
Ac un llar yn geni llu.

Llu nefol fu’n llawn afiaith – yn galw’r
Bugeiliaid o’u noswaith;
A’r alwad yn glir eilwaith
Ddaw’n gry’ i’m denu i’r daith.

Taith bell yn cymell camu – o noddfa
Fy nghuddfan, i lechu
Dan wawl croes, dan olau cry’
Heulwen yn Ei ddatgelu.

Datgelu’n y gwely gwair – rhyw foddion
Rhyfeddol, a chywair
Newydd yn cyniwair
Yn y gwyll uwch geni’r Gair.

Y Gair glân – onid annoeth – ei wrthod
Am werthoedd fydd drannoeth
Yn ofer; Crist yw ‘nghyfoeth:
Am hyn dy ddilyn sy’ ddoeth.

Dafydd M Job