image“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (‭Luc‬ ‭2‬:‭14‬ BCN)

Neithiwr roedd gwasanaeth ‘Carolau yng Ngolau Cannwyll’ yn ein capel. Y gamp flynyddol i mi yw dod o hyd i thema sy’n help i ni feddwl am ystyr yr ŵyl. Eleni, gyda chymaint o sôn wedi bod am ganmlwyddiant dechrau’r rhyfel byd cyntaf, roedd yn naturiol i mi droi at y cad-oediad ddigwyddodd rhwng y byddinoedd ar noswyl Nadolig.

Yn ôl y sôn ar noswyl Nadolig 1914, clywodd milwyr y cynghreiriaid sŵn canu yn dod o gyfeiriad yr Almaenwyr  – ‘Stille nacht, heilige nacht’ (Dawel nos, Sanctaidd yw’r nos). Ymatebodd milwyr Prydain gyda’u carolau hwy a chaed diwrnod heb ryfela. Yn wir bu’r milwyr yn cyfarfod yn nhir neb rhwng y ffosydd, a chyfarch ei gilydd.

Diolch am ddiwrnod o warineb ynghanol gwallgofrwydd y rhyfel ofnadwy hwnnw. Ond nid tangnefedd gafwyd yno – dim ond cad-oediad.

Er mwyn cael gwir heddwch mae angen dau beth – rhaid cael buddugoliaeth ar y gelyn, a chymod rhwng y ddwy blaid. Fe gafwyd buddugoliaeth ym 1918, gyda byddinoedd y cynghreiriaid yn drech na llengoedd canol Ewrop. Ond go brin y gallwn ddweud fod cymod wedi digwydd. Am flynyddoedd bu drwgdybiaeth rhwng y cenhedloedd, ac er na ellir dweud ei bod yn rhyfel rhyngom bellach, mae amau rhai sy’n wahanol i ni, boed mewn iaith, genedl neu gred, yn nodwedd o fywyd yn y byd hwn.

Mae gwraidd problem heddwch yn mynd yn ddyfnach – mae’n deillio o’r rhyfel rhwng dyn â Duw. Ac er mwyn cael heddwch rhyngom ni â’n Crëwr y daeth Iesu i fod yn Dywysog Tangnefedd. Fe gyflawnodd yr amodau yn llawn, trwy farw ar y groes trosom.

Yno cafodd fuddugoliaeth ar y gelyn. Diarfogodd y tywysogaethau a’r awdurdodau, a’u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes. (‭Colosiaid‬ ‭2‬:‭15‬ BCN) Gafael Satan arnom yw ein pechod, a’r canlyniad yw marwolaeth. Ond wynebodd Crist, yr un na wnaeth bechod ac na chaed twyll yn ei enau, ein marwolaeth trosom. Talodd bris ein gwrthryfel ei hunan ar y groes, a does gan Y diafol ddim hawl arnom bellach.

Yno hefyd daeth â chymod rhyngom ni â Duw. Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau. (‭2 Corinthiaid‬ ‭5‬:‭19‬ BCN) Mae dicter cyfiawn Duw am ein bod wedi gwrthod ei garu Ef na’n cyd-ddyn yn iawn wedi ei arllwys ar y groes. Fe gymrodd Oen Duw ymaith bechodau’r byd trwy dalu Iawn am y gwrthryfel.

A chyda’r cymod ddaw rhwng dyn â Duw, mae cymod yn bosib rhwng dyn â’i gyd-ddyn.

Pan mae ISIS ar waith yn y Dayrain Canol, y Taliban ym Mhacistan, rhyfela economaidd rhwng y gwledydd cyfoethog a’r gwledydd tlawd, ac anghydfod mewn teuluoedd a chymdeithas ar draw y byd, nid ofer yw sôn am Grist fel Tywysog Tangnefedd. Oherwydd ple bynnag caiff ddod, trwy ffydd, i galon dyn mae tangnefedd yn cael ei hau, ac yn ymledu.

A rhyw ddydd fe ddaw diwedd ar bob rhyfel, pan ddaw Crist yn ôl yng ngogoniant y nef.

Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy’n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â’r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
a disgleirdeb wyneb Duw:
cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
gwnaeth ei babell gyda dyn:
wele Dduwdod yn y cnawd,
dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emanwel!
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!

Henffych, T’wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!