ChristmasOnd yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. (‭Luc‬ ‭2‬:‭19‬ BCN)

“Digwyddodd, darfu megis seren wib.” Geiriau R. Williams Parry yn ei soned i’r llwynog, ond gallai’r geiriau fod yn cyfeirio at y Nadolig. Daeth y diwrnod mawr, ac heddiw wrth fynd am dro gyda’r ci, roedd ceir wedi parcio tu allan i un o’r siopau oedd yn agor yn gynnar. Dyma ddychwelyd i fywyd arferol. Gallwn gladdu hanes y Nadolig am flwyddyn arall.

Ond nid peth felly yw’r hanes i Gristnogion. Nid peth i’w roi yn yr atig gyda’r addurniadau yw’r gwirionedd hwn fod Duwdod wedi dod mewn baban i’n byd. Doedd Mair ddim yn deall yn iawn beth oedd arwyddocád geiriau llawen y bugeiliaid, na geiriau mwy dwys Simeon. Ond flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd Luc yn ymchwilio yn fanwl (pennod 1:3) er mwyn cofnodi hanes y Gwaredwr, roedd y cyfan wedi ei gadw ganddi ar ei chof, ac wedi ei adrodd yn ffyddlon. Gallai’r meddyg annwyl osod y cyfan yn ei lyfr er mwyn i ni gael gweld ei arwyddocád.

Oherwydd, er i ni beidio clywed llais yr angylion uwch bryniau Bethlehem, na gweld y seren arweiniodd y Doethion at y crud, eto trwy ffydd mae’r hanes yn dod yn gyfrwng i ni gael gobaith. Flynyddoedd yn ddiweddarach fe ddywedodd Iesu wrth un oedd yn amau “Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld.” (‭Ioan‬ ‭20‬:‭29‬ BCN)

Dyna ein braint ni, a gwyn ein byd os cymrwn wirionedd mawr geni Mab Duw gyda ni ymlaen i’r dyddiau a’r flwyddyn sy’n dod.

Ni welais i mo’r seren
Yn arwain at y crud,
Na chlywed llais angylion
Yn cyfarch Ceidwad byd;
Ond gwn am gysur d’enw Di –
Emaniwel – Duw gyda ni.

Ni fûm wrth Ffynnon Jacob
Yn torri’m syched i
Na bwyta gyda’r miloedd
Y wledd a rennaist Ti;
Ond yfais Ddŵr y Bywyd pur,
A bwyta’r bara ddaeth o’th gur.

Ni chlywais i mo’r dyrfa
Yn gweiddi am dy waed,
Na chlywed dyrnu’r hoelion
Trwy’r dwylo a thrwy’r traed;
Ond gwn mai ‘meiau yrrodd Di
I ddiodde melltith Calfarî.

Ni fûm wrth fedd yn gynnar
Ar fore’r trydydd dydd
Na rhoi fy mys yn D’ystlys
Wrth geisio gennyt ffydd;
Ond gwn dy fod Di heddiw’n fyw
I’m hachub i, Meseia Duw!

DMJ