imageOherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef; (1 Thesaloniaid‬ ‭4‬:‭16‬ BCN)

Mae heddiw yn ddiwrnod i ffarwelio yn ein tŷ ni. Mae ein merch, Heledd, sydd wedi bod adref am bythefnos dros ŵyl y Nadolig, yn dychwelyd i Slovakia, lle mae’n gweithio i sefydlu Undebau Cristnogol yn y prifysgolion yno. Bu’n braf iawn ei chael adref, ond mae’n gorfod mynd yn ôl yno heddiw, ac wedi brecwast fe fyddwn yn mynd â hi i faes awyr Manceinion.

Ond er ein bod yn ffarwelio â hi, nid mynd am byth y mae hi. Y cynllun yw y bydd yn dod yn ôl adref yn yr haf i’n gweld. Mae ei hystafell yma o hyd, a’i gwely yn disgwyl amdani. Ffarwelio dros dro yw hwn. Fe ddaw yn ôl, os bydd Duw yn caniatáu, a chawn ei chwmni eto.

Mae’r Beibl yn dweud wrthym nad hanes ar gyfer y gorffennol yw hanes Crist. Er i’w flynyddoedd yma ar y ddaear ddigwydd gymaint o amser yn ôl, mae’r Beibl yn addo y bydd yn dychwelyd un dydd. Y tro hwnnw nid dod fel baban i’w roi yn y preseb a wna. Fe ddaw yn goncwerwr, fel Brenin yn dychwelyd i’w wlad ei hun i osod trefn, ac i alw pawb i gyfrif. Bydd yn dod ar gymylau’r nef.

Sut ddiwrnod fydd hwnnw? Mae’n dibynnu ar eich safbwynt. I rai bydd yn ddiwrnod o ddychryn: Wele, y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a’r rhai a’i trywanodd, a bydd holl lwythau’r ddaear yn galaru o’i blegid ef. (‭Datguddiad‬ ‭1‬:‭7‬ BCN) Bydd y bobl hynny sydd wedi credu y gallant osgoi ei lywodraeth, a byw hebddo, yn sylweddoli fod eu dydd yn dod i ben. Mae’r Brenin yn dychwelyd, a rhaid rhoi ateb am yr hyn a wnaethant. Dyma ddydd i roi cyfrif am ein gweithredoedd.

Ond i eraill bydd yn ddydd gogoneddus. Bydd yn ddiwrnod iachawdwriaeth go iawn. Oherwydd bydd diwedd yn cael ei roi ar bob drygioni. Byddwn yn gweld y diwrnod hwnnw na chafodd Jimmy Saville ddihangfa, ac na chafodd cynllunwyr erchyllderau Auschwitz osgoi ateb am eu drygioni. Ni chaiff ISIL na Boko Haram y gair olaf. Bydd pob pechod yn derbyn ei gyfiawn dâl.

Yn fwy na dim byddwn yn cael bod gyda Christ a Duw, wedi ein trawsnewid: Clywais lais uchel o’r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda’r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.” (‭Datguddiad‬ ‭21‬:‭3-4‬ BCN)

Y diwrnod hwnnw byddwn yn deall yn iawn sut y bu i’n beiau ni i gyd gael eu cosbi yn llawn ar groes Calfaria. Bydd maddeuant Duw wedi dod yn realiti llawn yn ein profiad. A’r cyfan a wnaethom oedd credu – ymddiried yn y baban a ddaeth i farw ar groes trosom: Archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i’w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd. (‭Eseia‬ ‭53‬:‭5-6‬ BCN)

Pan oeddwn yn fach roeddwn yn hoffi straeon Robin Hood. Roedd John, brawd y Brenin Richard, a Sherriff Nottingham yn byw fel ag y mynnent, ond roedd Robin a’i ddynion yn edrych ymlaen at y dydd y byddai’r gwir frenin yn dod yn ôl.

Beth yw ein hiraeth ni heddiw? A ydym am fyw fel brenhinoedd ein hunain, heb fod yn atebol am ein gweithredoedd? Neu a ydym yn hiraethu am y dydd y daw’r gwir Frenin yn ôl? Mae’r gwir Frenin yn gyfiawn, a grasol. Mae ganddo drugaredd dibendraw i estyn at y rhai ddaw ato mewn ffydd ac edifeirwch.

Fel y soniais, mae yna ystafell yn ein tŷ yn barod i Heledd gael dychwelyd atom yn yr haf. Rydym yn byw a threfnu’n cartref yng ngoleuni’r gobaith hwnnw. Felly mae yna her i fyw a threfnu ein bywydau yng ngoleuni’r gobaith sicr y daw Baban Bethlehem yn ôl.

Y mae’r sawl sy’n tystiolaethu i’r pethau hyn yn dweud, “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu! (‭Datguddiad‬ ‭22‬:‭20‬ BCN)