Cofgolofn Skanderbeg ynghanol Tirana

Dyma fi wedi cyrraedd Albania unwaith eto. Dyma’r pumed tro i mi ddod i’r wlad mae’r trigolion yn ei galw’n Sqiperia – sef o’i gyfieithu “Eryri” neu wlad yr eryrod. Mae’n ddwy flynedd ers i mi fod yma, a bob tro mae yna newidiadau amlwg i’w gweld yn y brifddinas.
Mae’r llywodraeth wrthi yn ceisio gwella golwg y lle, ac yn sicr mae’r sgwâr lle mae’r gwesty wedi newid. Mae’r farchnad agored oedd yma wedi ei symud ac yn ei lle mae yna le braf wedi ei balmantu, gyda cholofn hardd yn y canol. Mae’r farchnad ei hun wedi ei symud i fan ychydig ymhellach i ffwrdd, ond mae ganddynt do gwydr a phren moethus uwch eu pen, a’r lle yn edrych yn fwy llewyrchus. Roedd un o’r rhai sy’n gweini ym mwyty’r gwesty yn dweud fod etholiad wedi bod, a bob tro cyn etholiad, mae’r aelod lleol yn gwneud yn siwr fod yna ryw wario’n digwydd! Yn sicr mae’r arogl yn well yn y sgwâr, a’r lle yn edrych yn llawer mwy taclus.

Daeth Zef, fy nghyfaill, i’m cyfarfod yn y maes awyr, ac fel bob amser, roedd yn llawn bywyd a brwdfrydedd. Gan fod ei wraig, Edita, ddim yn dda fe ddaeth â fi i’r gwesty a’m gadael yno tra roedd yntau’n mynd adref i weithio. Cefais innau hanner awr o gwsg (roeddwn wedi codi am ddau y bore i yrru draw i Fanceinion i’r maes awyr) ac yna mynd am dro i ganol Tirana i weld y newidiadau yn y sgwâr mawr o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol.

Am 5.30 es draw i Eglwys Immanuel, lle roedd Zef yn cymryd dosbarth i ddysgu Saesneg. Mae llawer yn Albania yn awyddus i ddysgu Saesneg, ac er nad oes cynnwys penodol Gristnogol yn y gwersi, mae’n ffordd mae’r eglwys yn gwneud cysylltiadau newydd. Roedd Zef yn awyddus fy mod yn dod er mwyn i’r rhai oedd yno ymarfer gwrando a gofyn cwestiynau.

Wedi’r wers aeth Zef adref i fod yn gwmni i Edita a’u dwy ferch – Greis, sy’n 14, ac Emily sy’n 12 oed. Cefais innau ddychwelyd i’r gwesty i gael swper a gwely cynnar.