Fy nghyfaill, Zef

Oherwydd fod arholiadau yn y brifysgol yr wythnos hon mae fy nghyfarfod gyda’r myfyrwyr wedi ei ganslo. Ond mae hynny wedi rhoi cyfle i feddwl am sefyllfa’r wlad a’i phobl.

Bore Llun aeth Zef â mi i weld ei frawd. Mae ganddo un brawd a phum chwaer, ond gan mai fo yw’r unig un sydd â swydd sy’n dwyn cyflog gweddol i mewn, mae’r teulu yn disgwyl iddo eu helpu yn gyson yn ariannol. Mae ei frawd, Kastrioti, wedi wynebu problemau iechyd amlwg iawn. Rai blynyddoedd bu raid iddo gael llawdriniaethau mawr ar ei galon yng ngwlad Groeg, fu’n bwysau ariannol anferth ar y teulu. Mae ei wraig wedi dioddef yn ddiweddar am iddyn nhw ddarganfod tiwmor ar ei harennau, ac er ei bod wedi cael llawdriniaeth, mae mewn iechyd gwael iawn. Bu iddo yntau ddisgyn yn ddiweddar wrth geisio diffodd tân yn simne eu cartref, a llwyddo i dorri ei fraich!
Nid yw hon yn sefyllfa anghyffredin yn y wlad, gyda’r rhai mewn swyddi yn cynnal teulu estynedig. Yn wir, dyma un o’r rhesymau mae cymaint yn gadael y wlad. Mae’r teuku yn rhoi pwysau ar iddyn nhw fynd i’r Gorllewin i ennill cyflog da, ac yna anfon yr arian yn ôl i’w helpu nhw yma.
Wrth gwrs, gobaith llawer, gan gynnwys y llywodraeth yma, yw y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn eu derbyn cyn hir, a bydd hynny yn gymorth economaidd amlwg. Ond os na fydd yr Undeb yn eu derbyn fe fyddant yn troi at Wlad Twrci i gael cymorth, a bydd hynny, meddai Zef, yn drychineb i’r Cristnogion yn y wlad.

Ddoe (dydd Mawrth) bu Zef yn gweithio yn ystod y dydd ar gyfieithu llyfr o’r Saesneg – Disciplines of a Godly Man gan Kent Hughes – er mwyn iddo gael ei gyhoeddi yma. Ond diwedd y prynhawn aeth â mi yn ôl i Durres i gyfarfod eto gyda Sokol ac Arvid. Ond y tro hwn roedd un arall yn ymuno â ni. Berti yw ei enw ac mae’n weinidog yn nhref Lushnje. Roedd ef a’r tri arall yn y Coleg Beiblaidd gyda’i gilydd.

Mae Berti yn eithaf enwog yn y gorllewin am iddo gael llyfr wedi ei ysgrifennu amdano – God’s Secret Listener. Yng nghyfnod Comiwnyddiaeth roedd yn swyddog yn y fyddin, a’i waith oedd rhwystro gorsafoedd radio’r Gorllewin rhag darlledu yn Albania. Roedd yn gyfrifol am wrando ar y gorsafoedd a chreu signal fyddai’n rhwystro’ signalau hynny. Tra’n gwneud hyn dechreuodd wrando ar Radio Monte Carlo – radio Cristnogol oedd yn darlledu i mewn i’r gwledydd Comiwnyddol. Er na ddaeth i gredu ar y pryd, pan gwympodd Comiwnyddiaeth yn y wlad roedd yn barod iawn i gyfarfod â’r Cristnogion oedd yn dod i’r wlad, ac yn fuan daeth i gredu ei hun.
Cefais fy holi’n dwll gan y tri am y sefyllfa yng Nghymru, a pham fy mod yn dod draw i gynorthwyo yma. Cefais yr argraff fod Berti yn fy ngweld fel rhywun fedrai ddod ag arian i mewn i’r wlad, a dyma’r perygl wrth ddod yma. Mae gan rai’r syniad fod pawb yn y Gorllewin yn meddu ar gyfoeth, a dyna pam rwyf mor hoff o Zef. Mae’n deall fy sefyllfa, ac yn hapus fy mod yn dod i helpu mewn unrhyw fodd y gallaf. Nid yw’n gofyn am arian er fod ganddo anghenion mawr, ac mae’n fy nhrin fel brawd yn y ffydd sy’n anogaeth iddo yn gyson.

Heddiw byddaf yn dychwelyd gartref, ond gyda gwahoddiad i ddod yn ôl pryd bynnag y gallaf wneud hynny.