Grŵp disgyblion Zef

Dechreuodd fy niwrnod llawn cyntaf yma yn Nhirana gyda brecwast yn y gwesty. Mae’n lle diddorol, yn cael ei redeg er egwyddorion Cristnogol gyda’r gweithwyr yn cael eu hyfforddi er mwyn iddyn nhw fedru efallai mewn amser gosod yr un math o fusnes ar dro yn y wlad. Mae’n gyrchfan nifer o Gristnogion yn y ddinas, a hefyd rhai o’r Unol Daleithiau sy’n gweithio yma.

Ar ôl dipyn daeth Zef i egluro cynllun y dydd, cyn gadael i weithio ar gynllun astudio ar gyfer y myfyrwyr. Yn y cyfamser cefais innau gyfle i baratoi ar gyfer y prynhawn, pryd y byddwn yn arwain rhai cyfarfodydd.

Am 3.00 daeth Zef i’m casglu i fynd draw i’r ysgol feddygol yn y ddinas. Mae grŵp o fyfyrwyr meddygol yn cyfarfod yn wythnosol ar gyfer astudiaeth gyda’i gilydd. Mae’n dymor arholiadau, felly doedd Zef ddim yn siwr a fyddai unrhyw un yno, ond roedd pump wedi dod ynghyd. Pan gyrhaeddom ni roedden nhw’n cael sessiwn yn trafod achos meddygol fel ffordd o adolygu eu gwaith. Yna fe gawsom awr i rannu, a cefais eu harwain drwy bennod gyntaf llythyr cyntaf Pedr. Roeddwn yn ceisio eu helpu i gadw perspectif tragwyddol mewn sefyllfa lle bydden nhw yn ddigon posib yn cael eu herio i gyfaddawdu eu safonau moesol. Wrth gwrs, y temtasiwn mawr iddyn nhw yw i adael y wlad a dod i’r Gorllewin. Mae’r Almaen yn recriwtio meddygon yn gyson yma. Ond mae angen rhai i weithio i wella’r sustem iechyd yma yn fawr.

Wedi awr gyda’r rhain aeth Zef â mi i gyfarfod grŵp sydd wedi ymgyfamodi i gwrdd yn wythnosol i ystyried beth yw bod yn ddisgybl i Iesu. Roedd naw yno, i gyd naill ai yn fyfyrwyr, neu newydd raddio (gweler y llun.) Hwn oedd y pumed cyfarfod mewn cyfres fydd yn parhau am dair blynedd. Dechreuodd y cyfarfod gyda phawb yn rhannu rhywbeth cadarnhaol amdanynt eu hnain, a rhywbeth lle roedden nhw’n teimlo eu bod angen newid yn eu bywyd. Yma wedi gweddïo ymddangosodd pum pizza anferth,a thra roedden nhw’n bwyta, cefais innau hanner awr i rannu ychydig am sut i astudio’r Beibl. Roedd yn sessiwn ymarferol iawn, gyda minnau yn rhoi awgrymiadau o sut i fynd ati, ac yn darlunio hyn drwy edrych ar bennod o ail lythyr Paul at Timotheus. Wrth i’m amser ddod i ben, dechreuodd y cwestiynau a bum am hanner awr arall yn ateb. Ymhlith y cwestiynau gofynnodd un i mi sut oedd darllen llyfr Datguddiad, a bu raid i mi roi arolwg sydyn o’r llyfr hwnnw mewn llai na deng munud!

Yn dilyn y sessiwn yma, fe gerddais yn ôl at y gwesty, lle roedd Zef wedi trefnu cwrdd â dau gyfaill o ddinas Durres, Arvid a Sokol. Aeth Arvid i Durres i weithio i’r mudiad myfyrwyr yn rhan amser, ond mae hefyd wedi plannu eglwys yno flwyddyn yn ôl, ac ymunodd Sokol gydag o i helpu yn y gwaith. Rwyf wedi cyfarfod Arvid o’r blaen wrth annerch myfyrwyr rai blynyddoedd yn ôl. Bum yn pregethu mewn eglwys oedd yn cael ei harwain gan Sokol yn ôl yn 2013, pan oedd yr egkwys newydd cael ei rhannu’n ddwy dan wahanol ddylanwadau. Roedden nhw eisiau trafod rhywbeth gyda Zef, felly aethom am bryd o fwyd gyda’n gilydd. Felly dyma ddiwrnod pur lawn.

Y cynllun heddiw fydd mynd pnawn ‘ma i Durres ar gyfer cynhadledd fydd yn parhau tan fore Sul i raddedigion sydd bellach yn weithwyr proffesiynol.