Ddoe fe wnes i gyfeirio ein meddyliau at y ffordd mae Duw yn edrych arnom ni. Heddiw rydw i am barhau ar yr un thema, ond am newid y pwyslais ychydig.

Mae Duw yn ein gweld ni yn nhermau ei allu Ef i’n trawsnewid a’n gwneud ni yn debyg i Grist. Mae’r rhai sydd wedi credu yn Iesu Grist wedi eu troi oddi ar lwynr i ddinystr at lwybr bywyd. Mae Ioan yn ei osod fel hyn yn ei lythyr cyntaf: Gwelwch pa fath gariad y mae’r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym……. Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. (1 John 3:1-2)

Beth mae hyn yn ei olygu am sut ydym ni i edrych arnom ni ein hunain?

Yn gyntaf, ni ddylem feddwl yn rhy uchel amdanom ein hunain. Nid oherwydd unrhyw ragoriaeth ynom ni mae Duw yn barod i’n derbyn, ond oherwydd ei ras a ‘i drugaredd ei Hun. Cael ein gwrthod ganddo yw’r hyn a haeddwn i gyd. Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwrthaf, os cawsom brofi bendithion da Duw (a phwy ohonom na chafodd brofi rywfaint o hynny), nid am i ni ragori ar bobl eraill y digwyddodd hynny. Mae haint ein pechod wedi treiddio yn ddyfnach i’n bodolaeth nag y gallwn ei ddychmygu.

Yn ail, ni ddylem feddwl yn rhy isel amdanom ein hunain. Pe byddem ond yn meddwl am ein pechod byddem yn siwr o suddo i anobaith. Ond os ydym yn Gristnogion, mae Duw wedi trugarhau wrthym.Mae ein beiau wedi eu cuddio trwy aberth rhyfeddol Iesu Grist. Mae wedi dechrau ei waith ynom. Mae wedi ein gosod ar lwybr sy’n arwain i ogoniant, ac felly mae wedi dechrau ein gwneud yn fwy tebyg i Grist. Rydym yn blant iddo trwy ras. Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, os bu i ni brofi amseroedd anodd, nid ein cosbi oedd Duw. Un o’r pethau roedd Duw yn ei wneud wrth adael i ni wynebu’r flwyddyn anodd hon oedd ein newid ni i fod yn fwy tebyg i’n Harglwydd. Un o’r pethau eraill roedd yn ei wneud oedd dangos i’r byd fel ag y mae ei ras yn gallu cadw ei blant drwy ystormydd mawr bywyd.

Yn drydydd, Mae Ioan yn mynd ymlaen i ddweud fod pob un y mae’r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur. (1 Ioan 3:3) Fe ddylem ni gyd-fynd â gwaith Duw yn ein bywydau. Dylem ofyn am yr Ysbryd Glân i’n gwneud yn fwy pur, ac fe ddylem geisio efelychu ein Gwaredwr. Mae hyn yn golygu newid ein hagwedd yn gymaint ag unrhyw beth arall. Er enghraifft fe ddylem ni ddechrau edrych ar bobl eraill yn wahanol. Yn lle eu gweld yn nhermau eu heiddo, eu doniau, eu cyfoeth neu eu problemau, fe ddylem eu gweld fel pobl y mae Duw am eu bendithio trwom ni. Fe ddylem ystyried fod y Duw hollalluog yn gallu ein defnyddio ni hyd yn oed i fendithio ein gelynion.

Dyna chi her ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Categories: Nadolig