Mae’n rhaid cyfaddef nad gwasanaeth crefyddol sydd ym meddyliau mwyafrif o bobl ein cymdeithas heddiw. Gwelir mwy yn heidio am y siopau nag i’r capeli. Mae’r dyddiau pan nad oedd yn gyfreithlon i agor siopau a y Sul wedi hen fynd heibio. Ar ben hynny yr adeg hon o’r flwyddyn mae llawer yn chwilio am fargen – mae’r sales yn denu mwy nag arfer.

Mae’n ddiddorol cymharu’r siopwyr sy’n mynd i brynu gyda’r hyn wnaeth Iesu yn dod i brynu pobl iddo ei hun. Peidiwch meddwl mai eisiau pwyntio bys yr ydw i mewn ffordd hunan-gyfiawn. Ceisio meddwl am ras rhyfeddol ac anghymharol y Gwaredwr ydw i. Mae’r siopwyr yn gobeithio cael rhywbeth gwerthfawr am bris gostyngol. Ond mae Crist yn cael rhywbeth anheilwng a hynny am bris anfeidrol.

Mae’n wir bod bargeinion y siopau yn aml yn troi allan i fod yn bethau digon sâl – hen stoc o bethau oedd methu gwerthu. Ac eto mae ambell i fargen dda i’w chael – rhywbeth sydd wir yn werth rhywbeth.

Ond mae Crist yn ein prynu ni. Ac er ein bod yn cyfrif ein hunain yn werthfawr, wyneb yn wyneb â gogoniant a sancteiddrwydd Duw, does yna ddim llawer o werth ar yr hyn ydym. Rydym i gyd yn haeddu cael ein gwrthod  gan Dduw am i ni ei wrthod ef a’i safonau. Ond mae’r Gwaredwr yn dweud iddo ddod i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn.

A’r gobaith yn y siopau ydi cael rhywbeth am bris rhad. Rhywbeth sydd werth llawer, yn mynd am ychydig oherwydd bod yr amserau yn ddrwg a’r masnachwyr angen clirio eu silffoedd.

Ond yma beth yw’r pris a delir amdanom ni? Os gellir cymharu gwerth cell bach o facteria gyda gwerth person dynol, yna ‘dyw hynny’n ddim wrth feddwl am y gwahaniaeth rhwng ein gwerth ni â Mab y Duw byw. Ac eto :

Daw golau penna’r nef
I’r ogof laith i ddechrau’r daith –
Gogoniant iddo Ef.’

Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer (Marc 10:45)

Mae Duw wedi gosod ei fryd ar ein cael ni yn eiddo iddo. Mae wedi gosod y fath werth arnom nes talu’r pris mwyaf posib er mwyn ein prynu. Nid bargen y sales ond trugaredd anfeidrol.

Ymaflodd mewn dyn ar y llawr,
Fe’i dygodd â’r Duwdod yn un;
Y pellter oedd rhyngddynt oedd fawr,
Fe’i llanwodd â’i haeddiant ei Hun.

A dyna pam mai nid yn y siopau y bum i heddiw, ond yn canu mawl i Dduw am ei drugaredd anfeidrol gyda gwaredigion eraill.

Diwalla’m hangen byth o’i gyfoeth drud,
Ni’m collir chwaith – trugarog yw o hyd;
Trysor sydd ynddo – perl o ddwyfol fri,
A’i ras a roes y trysor hwn i mi.

Categories: Nadolig