Bu heddiw yn ddiwrnod o orffwys wedi’r daith yma, a pharatoi ar gyfer yr wythnos nesaf. Daeth Zef a’r teulu draw i Qendra Stefan yn y bore i gael brecwast efo mi. Roedd yn gyfle i siarad dipyn am sefyllfa’r wlad.

Bu i’r wlad ddioddef llawer dros y blynyddoedd. Dan arweiniad Enver Hoxha aeth yn fwy a mwy unig, wrth iddo gyhuddo gwahanol lywodraethau comiwnyddol o fradychu eu hegwyddorion. Roedd yn siwr fod Nato yn disgwyl am esgus i ymosod ar y wlad.
Wedi ei farwolaeth, ac wedi i’r wlad agor ei ffiniau ym 1991 roedd gobaith y byddai’r sefyllfa yn gwella. Ond doedd hi ddim yn cychwyn o le da. Roedd llygredd yn y llywodraeth ac ym myd busnes yn golygu fod u rhyw ddatblygiad yn araf iawn. Roedd llawer o ieuenctid yn gweld mai’r unig obaith o wella eu byd oedd gadael y wlad i geisio gwell swyddi a chyflogau mewn mannau eraill. Roedd pwysau arnynt yn aml gan eu teuluoedd i fynd dramor a danfon arian yn ôl i gynnal y teulu estynedig adref.

Gyda’r argyfwng economaidd byd eang, fodd bynnag, mae llawer wedi dychwelyd adref. Gan na allant ddod o hyd i swyddi yma, maen’t bellach yn fwrn ar eu teuluoedd. Flwyddyn yn ôl roedd pethau’n edrych yn obeithiol, ond mae tro ar fyd eto. Eu gobaith oedd cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ond mae dadlau yn y llywodraeth yn rhwystro hynny rhag digwydd.

Yn grefyddol mae tri prif draddodiad yma. Er i Enver Hosha geisio dileu crefydd yn llwyr mae’r cof yn y pentrefi am eu traddodiadau. O safbwynt Cristnogaeth, yn ne’r wlad yr Eglwys Uniongredd Ddwyreiniol yw’r prif ddylanwad. Yn y gogledd yr Eglwys Rufeinig Gatholig yw’r traddodiad. Prif grefydd y wlad o adeg yr ymherodraeth Ottoman yw Islam. Felly er nad yw’r bobl ar y cyfan yn grefyddol ond mewn enw, mae pentrefi yn dal i gyfrif eu hunain fel Catholig, Uniongred neu Fwslemaidd. Mae newid crefydd neu eglwys yn ymddangos fel gwadu eu hunaniaeth.

Felly mae rhannu’r efengyl yn gallu bod yn her (onid yw felly bob amser?). Pan geisiodd eglwys Zef gyrraedd pentref mwslemaidd y tu allan i’r brif-ddinas, eu man cychwyn oedd mynd i chwarae pêl droed gyda dynion ifanc a bechgyn y pentref. Ar ôl dipyn dyma aros ar ôl bod yn chwarae i edrych ar y Beibl. Erbyn hyn mae yna eglwys wedi ei sefydlu yno.
Mae yna arwyddion gobeithiol eraill hefyd. Mae Zef yn cyfarfod yn fisol gyda rhai o uchel swyddogion yr heddlu i gynnal astudiaeth Feiblaidd. Mae Zef gydag eraill wrthi yn ceisio gweithio gyda gwleidyddion y wlad. “Sefydliad Wilberforce” fydd ei enw. Mae rhai aelodau seneddol ifanc, a rhai Cristnogion sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn rhan o’r cynllun hwn.