Mae popeth heblaw y traffig ar y lôn yn symud yn ara deg yn Albania. Heddiw bum yn gweinidogaethu mewn dwy eglwys.
Yn y bore roeddwn yn pregethu yn eglwys Emanuel yn Tirana. Dyma’r eglwys lle mae Zef yn henuriad. Fe’i cychwynwyd gan Zef a rhai Cristnogion eraill, ond dan ofal cenhadwr o’r Unol Daleithiau. Bu ef yn weinidog arni am gyfnod, ond wedyn trosglwyddwyd yr arweiniad i Zef ac Altin – henuriad arall sy’n gyfarwyddwr Cymdeithas y Beiblau yn y wlad. Bellach mae ganddynt dri henuriad arall, ond nid oes ganddynt lawer o brofiad o bregethu, felly mae’r rhan fwyaf o’r dysgu yn disgyn ar ysgwyddau Zef ac Altin.
Roedd yr oedfa wedi ei chyhoeddi i gychwyn am 11.00. Llwyddwyd i ddechrau erbyn rhyw ddeg munud wedi’r awr, ond roedd pobl yn dal i gyrraedd am rhyw ugain munud arall. Roedd tua 60 yn yr oedfa (Roedd rhai i ffwrdd am amryw resymau). Canwyd nifer o emynau i gyfeiliant gitâr. Roeddwn yn adnabod ambell un fel cyfieithiad o’r Saesneg, ond roedd yn braf gweld eu bod bellach wedi bod yna ganeuon gwreiddiol yn cael eu cyfansoddi yn Albania. Cafwyd cyfnod o weddi, a chyfle i rai rannu anghenion cyn y gweddïo.
Roeddwn yn pregethu trwy gyfieithiad, gyda mi yn dweud brawddeg yn Saesneg, a Zef yn cyfieithu wedyn i’r gynulleidfa. Cymerais hanes Josua yn anfon ysbïwyr i Jericho fel sail i’r bregeth. (Mae i’w chlywed yn Gymraeg ar dudalen pregethau’r wefan hon.) Roedd y gwrando yn astud, gyda minnau’n cael fy nghalonogi o weld y bobl yn ymateb i’r Gair. Yna canwyd emyn i gloi.
Roedd un wraig yn bresennol oedd yn ymweld â’r ddinas o’r Eidal. Roedd ganddi gysylltiad teuluol gydag un o’r aelodau fuodd farw y llynedd dan lawdriniaeth ar ei galon yn yr Eidal. Roedd yn dod o gefndir mwslemaidd, ac erioed wedi bod mewn capel erioed. Roedd wedi ei syfrdannu, ac yn awyddus i glywed mwy – roedd yn rhyfeddu mor berthnasol oedd y neges i’r ffordd yr oedd yn teimlo. Cefais sgwrsio gydag amryw ar y diwedd.
Wedi’r oedfa roedd nofer yn mynd i gaffi lleol i gael paned a pharhau i sgwrsio. Bum yn siarad ag un yn arbennig dreuliodd 14 mlynedd yn yr Unol Daleithiau cyn teimlo fod Duw yn ei alw’n ôl i Albania i geisio bod o gymorth i’w bobl ei hun. Mae’n gweithio ym myd busnes, ond yn rhoi o’i amser i gynorthwyo gyda gwaith Cristnogol ymhlith y myfyrwyr.
Ddiwedd y prynhawn teithiais gyda Zef i ddinas Durres. Dyma ail ddinas y wlad, ar yr arfordir. Mae nifer o olion archaeolegol Rhufeinig yma, gan gynnwys amffitheatr lle merthyrwyd Titus yn ôl traddodiad. Dywedir hefyd fod Paul wedi bod yma’n pregethu (Ilyricum oedd yr hen enw ar yr ardal).
Roeddwn i bregethu yma am 5.00 mewn eglwys fechan, sy’n cael ei harwain gan Gristion o’r ddinas. Roedd tua 20 yn y gynulleidfa, a’r gwrandawiad yn dda eto( er eu bod yn hwyr yn cychwyn unwaith eto!). Roedd y trawsdoriad o bobl yno’n ddiddorol. Roedd un hen ŵr oedd yn athro mathemateg yn y brifysgol, yn fawr ei barch gan bobl y ddinas. Roedd dyn arall yn gyfreithiwr amlwg yn y ddinas, ac un wraig ifanc, hefyd yn gyfreithwraig sydd yn gwneud enw iddi ei hun yn yr ardal. Mae’n eglwys ddi-hyder iawn, oherwydd ei bod yn ganlyniad i eglwys fwy yn rhannu’n ddwy, ac nid oes cymod wedi dod eto. Does gan ei gweinidog ddim llawer o gefnogaeth oddi allan, er bod yr aelodau yn gadarn iawn o’i blaid.
Wedi’r oedfa aethom eto i gael paned o goffi gyda’n gilydd, cyn dychwelyd i Tirana. Yfory byddwn yn teithio i Elbasan ar gyfer ymgyrch myfyrwyr yno. Fe roddaf wybodaeth am hynny cyn gadael yn y bore oherwydd nid wy’n siwr os caf gysylltiad â’r we yn rheolaidd yn ystod yr wythnos.