Gadawodd Zef Elbasan neithiwr, felly roeddwn yn fwy dibynnol ar y myfyrwyr i gael gwybod beth oedd yn digwydd heddiw. Ymunais â hwy y peth cyntaf yn y bore am gyfnod o astudiaeth a gweddi. Wedyn, wrth iddyn nhw fynd i’r Brisfysgol a rannu gwahoddiadau, defnyddiais innau’r amser i baratoi rhywfaint ar gyfer cynhadledd ym Mis Mai.

Ddiwedd y bore aethom ar fws i ochr arall y ddinas i gael cinio ac yna cyflwyniad o waith World Vision. Elusen hon sy’n cynorthwyo plant i gael gofal, cartref ac addysg mewn gwledydd difreintiedig yn y byd. Mae hyn yn digwydd trwy i bobl yn y Gorllewin noddi plant. Rhoddwyd her i ninnau feddwl pa ffordd rydym ni yn ceisio cyfiawnder cymdeithasol i bobl o fewn ein cylch ein hunain.

Ar y ffordd nôl i’r Brifysgol cefais sgwrs gydag Alda, gwraig ifanc sydd ar y tîm. Daeth i fyny o GiroKaster, dinas yn y de, gyda thri arall i gynorthwyo ar yr ymgyrch. Bu’n gweithio i fudiad BSKSH, sef yr hyn sy’n cyfateb i UCCF yn Albania, am bum mlynedd. Ond erbyn hyn mae’n gweithio mewn cartref i blant amddifad yno. Mae llawer o blant anghenus yn y wlad. Mae rhai wir yn amddifad, ond mae eraill yn y cartref am nad oes gan eu rhieni fodd i’w cynnal. Soniodd am un hogan y cafwyd hyd iddi gan fugail o dan rhyw lwyn ynghanol y wlad. Roedd yn ddau ddiwrnod oed ar y pryd, ac wedi gofal yn yr ysbyty daeth i’r cartref. Erbyn hyn mae wedi cael ei mabwysiadu gan deulu yn Elbasan.

Mae Alda ei hun yn dod o deulu heb unrhyw ymlyniad Cristnogol. Ond daeth ei brawd yn Gristion wedi ctfnod o ddioddef iselder ysbryd mawr. Yna daeth Alda ei hun i gredu, yn erbyn ei holl ragfarnau, wedi cyfnod hir o ryfela yn ei chalon. Mae ei rhieni yn gwrthwynebu ei ffydd yn fawr iawn, ac mae ei brawd arall yn gwawdio Cristnogaeth yn gyson. Ond mae hi’n hogan hyfryd ei hatur, a’i ffydd yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Y neges oedd gennyf heddiw oedd “Chwilio am Gariad”. Dechreuais trwy ganu “Dyma gariad fel y moroedd” iddyn nhw. Wedyn soniais am gariad rhamantus y ffilmiau, cyn symud ymlaen i gariad real yn ein byd ni sy’n gallu cael ei fradychu, ei frifo neu ei golli. Yna cufeiriais at hanes y wraig wrth ffynnon Jacob yn Samaria (Ioan 4). Cyfeiriodd Iesu hi at ei syched calon – syched yr oedd wedi ceisio ei fodloni mewn dynion gwahanol, ond wedi methu. Mae Crist yn dweud ein bod wedi ein creu i garu – caru Duw a chael ein caru ganddo. Ond rydym wedi gwrthod y cariad hwn. Ond mae Duw wedi dangos ei gariad rhyfeddol i ni trwy ddanfon ei Fab i’r byd i farw yn ein lle –
Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli;
T’wysog bywyd pur yn marw,
marw i brynu’n bywyd ni.
Yr her yw gwybod sut i ymateb i’r cariad hwn – parhau i’w wrthod, ynteu derbyn y cariad na ellir ei golli byth.