Nos Fercher, wedi’r cyfarfod i rannu’r efengyl, cefais baned gyda Ron, y cenhadwr o’r Unol Daleithiau, sydd yma ers tro. Symudodd ef a’i wraig i Sbaen i ddechrau fel cenhadon, ond ar ôl pum mlynedd daeth drws i Albania ac yma maen nhw wedi bod ers hynny. Mae ganddynt naw o blant (dwi’n credu), a phump ohonyn nhw wedi priodi ag Albaniaid bellach, er bod tair o’r rheini wedi symud efo’u gwŷr yn ol i UDA erbyn hyn.Byddan nhw’n symud yn ôl eu hunain fis Medi oherwydd gofalon teuluol, ond mae’n amlwg nad ydynt yn edrych ymlaen yn ormodol at wneud hynny.

Roedd ddoe (dydd Iau) yn wyliau cenedlaethol. Er fod y wlad i gyd yn cael gwyliau, mae hon yn un sydd yn arbennig i Elbasan. Diwrnod yr Haf yw’r enw a roddir arni – er nad oedd hi’n ddim byd tebyg i haf yma. Am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd roedd yn bwrw glaw ar y diwrnod. Roedd pobl yn tyrru i ganol y dref, a chacenni arbennig yn cael eu gwerthu ym mhob man. Roedd yn fy atgoffa i o Ffair borth, gyda’r tyrfaoedd yn llu ymhob man. Roedd stondinau lu ar draws prif sgwâr y ddinas, a phob math o weithgareddau. Gwelais arth ynghanol y sgwâr, a gallech gael eich llun yn eistedd gyda’r arth am bris.

Roedd nifer o griwiau teledu yno hefyd yn dilyn gwahanol bobl bwysig o gwmpas y lle. Gwelais arweinydd yr wrthblaid yno, yn ddyn tal, ben ag ysgwyddau yn uwch na’r mwyafrif o bobl (mae pobl y wlad yn dueddol o fod yn fyr). Roedd Llefarydd y Senedd yno hefyd, ac ar y llaw arall roedd rhyw gomedïwr yn ffilmio ar gyfer rhaglen deledu.

Daethom ar draws cwmni o Gristnogion yn cynnal stondin i rannu llenyddiaeth Gristnogol. Roedd cwmni arall wedi dod o ddinas Korche yn y de, ac roedden nhw’n cynnal gweithgareddau i blant – rhannu balwnau a phaentio wynebau.

Oherwydd y glaw treuliwyd y rhan fwyaf o’r prynhawn yn y capel yn chwarae tennis bwrdd, UNO ac yn gwrando ar gerddoriaeth uchel iawn. Roedd cyfarfod eto am 5.00 gyda Ron, y cenhadwr y tro hwn yn siarad. Roedd ei sgwrs yn llawer mwy fel pregeth draddodiadol na’r rhai yr oeddwn i wedi eu rhoi, gyda thestun a phwyntiau. Roedd yn ceisio sôn am farwolaeth, a’r fuddugoliaeth sydd gan Gristnogion ar farwolaeth yng Nghrist. Yn dilyn ei bregeth, gofynnwyd i mi roddi fy nhystiolaeth o sut y bu i mi ddod yn Gristion.
Yn y nos, wedi bwyd, daeth Zef draw o Tirana gyda chriw o ddynion ifanc i gael gêm o bêl droed yn erbyn y bechgyn oedd ar y tîm efengylu.

Heddiw rwy’n teithio yn ôl i Tirana, i baratoi ar gyfer pregethu dydd Sul unwaith eto.