Wedi’r rhwystredigaeth o golli weld y gêm rygbi nos Sadwrn, cyrhaeddodd y Sul. Yn y bore roeddwn yn pregethu yn Eglwys Emanuel unwaith eto. Rwy’n arfer erbyn hyn efo ffordd pobl Albania o drin amser, felly doedd ddim yn syndod ein bod yn dechrau’n hwyr, a phobl yn dal i ddod i mewn am amser.

Roeddwn yn pregethu heddiw ar Philipiaid 3:14 – yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu. Mewn oes lle mae pobl yn aml yn credu na allwn wneud dim ond byw i’r foment, mae Paul yn ein atgoffa fod gan Dduw bwrpas tragwyddol i’n bywydau. Mae’n ymwybodol o alwad Duw arnom. Am ei fod yn cymryd yr alwad hon o ddifrif mae ganddo nod neu bwrpas i’w fywyd. Oherwydd hyn mae’n ymdrechu tua’r nod. Rhoddais yr her iddynt o holi beth oedd nod eu bywydau.

Roedd mwy yn yr eglwys y tro hwn na Sul diwethaf, gan gynnwys dau feddyg ac un o’u gwragedd o’r Unol Daleithiau sydd draw ar gyfer ymgyrch y myfyrwyr meddygol yr wythnos hon. Cefais sgwrsio â hwy wedi’r oedfa, a hefyd yn ystod cinio. Roedd Zef yn cael ei benblwydd yn 40 oed, felly roedd nifer wedi eu gwahodd i gaffi lleol i fwynhau ychydig o wyd a diod wedi’r oedfa. Roedd un o’r meddygon yn wreiddiol o Loegr, a thra’n hyfforddi yn Llundain bu’r mynychu Capel Westminster i wrando ar Dr Martyn Lloyd Jones yn pregethu. Wedi iddo hyfforddi aeth allan i’r Unol Daleithiau ar ysgoloriaeth, ac arhosodd yno fel llawfeddyg, hyd nes iddo ymddeol. Mae bellach yn rhoi amser i gynorthwyo’r Christian Medical Fellowship wneud gwaith mewn gwledydd llai breintiedig.

Yn y prynhawn cefais fy ngodi i fynd i bentref bach y tu allan i’r brif-ddinas o’r enw Vaqar. Yma mae Eglwys Emanuel wedi bod yn ceisio plannu eglwys fach. Mae’n waith ara deg, ond roedd tua pymtheg o ddynion ifanc, ac un wraig wedi dod ynghyd. Mae mwy o ferched wedi bod yn dod, ond gan fod cwrdd arbennig i ferched wedi dechrau bob pythefnos, mae nhw’n dueddol o beidio dod ar y Sul. Pentref Mwslemaidd o ran traddodiad yw hwn, ond mae Eglwys Emanuel wedi bod yn gweithio yma ers rhai blynyddoedd. Dechreuodd y gwaith trwy i rai o’r eglwys ddod i chwarae pel droed gyda hogiau’r pentref. Yna ar ôl ennill rhywfaint o ymddiriedaeth y bobl, dyma ddechrau cwrd wedi’r pel droed i drafod y Beibl. Rhoddais yr un neges iddyn nhw yn y prynhawn. Wedi’r neges roedd pawb yn mynd i faes chwarae i gael gêm bel droed. Y bwriad oedd i mi ddod yn ôl i Tirana i gael pryd o fwyd gyda’r tîm meddygol sydd yma ar gyfer yr ymgyrch, ond doedd neb ar gael i ddod â mi yn ôl. Felly cefais wylio’r pel droed, cyn dychwelyd yn hwyrach i’r gwesty ynghanol y ddinas.