Mae Mosque heb fod yn bell o’r gwesty lle rwyf yn aros, a bob bore am bump caf fy neffro gan yr alwad i weddi sy’n seinio o dŵr y Mosque trwy uchel-seinydd. Er fod Zef yn mynnu fy atgoffa nad yw’r mwyafrif o Fwslemiaid yn y wlad yn ymarfer eu crefydd o gwbl, a bod yr Eglwys Uniongred yn y de, a’r Eglwys Gatholig yn y gogledd mor gryf ag Islam, mae’r alwad i weddi yn fy atgoffa nad yw ein brwydr yn erbyn cig a gwaed, ond yn un ysbrydol i’w hennill ar ein gliniau gerbron Duw.

Dydd Llun dechreuodd ymgyrch y myfyrwyr meddygol. Mae’r coleg meddygol yn Nhirana wedi do yn brigysgol ar ei phen ei hun. Mae’r Cristnogion yn y coleg yn cael cymorth gyda’u tystiolaeth mewn gwahanol ffyrdd. Mae Cymdeithas BSKSH, (sy’n cyfateb i UCCF yn ein gwlad ni) yn cefnogi gweithiwr i fod yn cyfarwyddo’r dystiolaeth yma. Mae hi’n feddyg sydd wedi graddio cwpl o flynyddoedd yn ôl. Mae bellach wedi llwyddo i gael gwaith fel meddyg rhan amser, felly bydd yn gweithio’n rhan amser i BSKSH. Mae’r Christian Medical Fellowship hefyd wedi bod yn cefnogi. Maent wedi prynu fflat fechan yng nghyffiniau’r coleg, lle gall y myfyrwyr gynnal cyfarfodydd a gweithgaredd. Mae un ystafell o’r fflat wedi cael ei throi yn llyfrgell, gyda chysylltiad â’r we, ac mae rhyddid i unrhyw fyfyriwr ddefnyddio’r adnoddau.

Mae CMF hefyd wedi bod yn cynnal cynhadledd o dro i dro i fyfyrwyr meddygol (bydd hon yn digwydd o nos Iau tan ddydd Sul yn Durres), ond y tro hwn maent wedi cysylltu’r gynhadledd ag ymgyrch yn y coleg yn ystod yr wythnos. Felly ddoe cynhaliwyd gwahanol weithgareddau. Yn gyntaf cafwyd dwy sessiwn yn y bore – y naill yn trafod sut mae trin gwaedlif yn y stumog a’r oesophagus, a’r llall yn trafod sut mae gwybod pa brofion i ofyn amdanyn nhw, mewn dyddiau lle mae pob prawf yn ddrud i’w cynnal. Wedi cinio gyda’n gilydd cafwyd dwy sessiwn arall – un ymarferol yn dangos sut mae archwilio claf, a’r olaf yn uniongyrchol Gristnogol, yn sôn am ffydd wedi ei seilio ar dystiolaeth. (Evidence based faith). Roedd y rhain i gyd yn cael eu rhoi gan feddygon, y tair sessiwn gyntaf gan Americanwyr, a’r olaf gan Sais o feddyg sy’n ymarfer yn Llundain. Roedd y sessiwn olaf hon yn defnyddio egwyddorion byddai meddygon yn eu defnyddio yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Wedi cyfnod o amser rhydd, dangoswyd ffilm oedd yn arwain at drafodaeth. Doedd y ffilm ddim yn un Cristnogol – Patch Adams oedd ei theitl, gyd Robin Williams yn cymryd y prif ran. Mae’nmynd yn fyfyriwr meddygol er ei fod yn hŷn, gyda thân yn ei fol ei fod am helpu pobl. Fel y gallwch ddychmygu mae’n ffilm llawn hiwmor, ond mae’n codi’r cwestiwn – sut ydym yn edrych ar bobl – Ai dim ond cleifion, ynteu pobl fyw gyda theimladau, pryderon a gobeithion.

Mae’r mwyafrif o’r myfyrwyr meddygol yn medru rhywfaint o Saesneg, felly mae modd sgwrsio gyda mwy yma nag yn Elbasan. Bu’n ddiwrnod diddorol, a heblaw am hynny, dysgais rywfaint am waedlif yn y stumog!!