Dydd Mercher oedd fy niwrnod llawn olaf yn y wlad. Penderfynais nad oeddwn angen mwy o ddarlithoedd meddygol! Wedi bore tawel yn crwydro’r amgueddfa genedlaethol, a dysgu am hanes y wlad, yn y prynhawn bum yn paratoi ar gyfer rhoi astudiaeth yn Eglwys Emanuel.

Tua hanner awr wedi pump daeth rhyw bymtheg at ei gilydd ar gyfer yr astudiaeth. Fy nghwestiwn iddyn nhw ar y dechrau oedd pwy oedden nhw? Yn ein hoes ni mae cwestiwn hunaniaeth neu identity wedi dod yn bwysig. Ai rhith i geisio dianc ohono yw ein bywyd fel mae athroniaeth ddwyreiniol yn ei honni? Neu a ydym yn ddim ond casgliad o gemegau a moleciwlau, a’n bywyd yn ddim byd yn adweithiau miliynnau o niwronau?

Yn ôl dechreuadau Genesis rydym yn fwy na hynny. Rydym yn greaduriaid, wedi ein creu ar lun a delw Duw, gyda’r potensial ym mhob sefyllfa i fedru ei adlewyrchu. Buonm yn meddwl sut mae hynny i ddigwydd – ym meysydd moesoldeb, llywodraeth, cywreinrwydd, creadigrwydd a chymdeithas.

Ond beth am athrawiaeth y cwymp? Nid ydym yn llwyddo i adlewyrchu ein Crëwr ond mewn modd amherffaith iawn. Mae’r ddelw fel petai wedi ei chwalu. Yng Nghrist mae gobaith adfer y ddelw. Wrth edifarhau am ein beiau, a rhoi ein ffydd ynddo rydym yn cccael ein creu o’r newydd fel petai. Yn union fel yr anadlodd Duw ar ddyn a daeth yn enaid byw yn Genesis Pennod 2, Felly wedi’r atgyfodiad anadlodd Crist ar ei ddisgyblion a dweud “Derbyniwch yn Ysbryd Glân.” Felly mae gan pob Cristion y potensial, trwy’r Ysbryd, i fod yn ddelw Duw yn ein byd ni. Neu fel y dywedodd Iesu – “Chwi yw goleuni’r byd” (Mathew 5:14)

Wedi’r astudiaeth aethom at y myfyrwyr unwaith eto, lle roeddent wedi bod yn cynnal cyngerdd. Yna wedi pryd o fwyd gyda’n gilydd dyma gyrraedd y gwesty yn hwyr y nos i geisio gorffwys cyn y daith adref.