Roedd newyddion braf yn fy nisgwyl pan gyrhaeddais yn ôl i’r gwesty neithiwr. Roedd e-bost yn dweud wrthyf fod cwmni awyrennau Lufthansa wedi canslo fy nhaith fory. Doedd dim eglurhad, felly treuliais y noson yn ceisio dyfalu beth oedd o’i le, a sut fyddwn yn cyrraedd adref. Erbyn y bore dyma ddeall mai streic oedd yn gyfrifol am y gohirio, a byddwn yn cael fy ngosod ar awyren arall ryw bryd.

Wedi cryn chwilio a thrafferthu, dyma sicrhau taith arall – o Tirana i Vienna, ac yna wedi disgwyl am dipyn yn y fan honno, byddwn yn cael awyren arall i fynd i Lundain. Mae’n siwr fod sefyllian mewn ciw am awr a hanner yn dwyn rhyw fath o fendith – ond tydi o ddim yn amlwg iawn ar y pryd!

A dyna ddarlun o sut mae bywyd. Efallai ein bod ni yn gosod allan ein cynllun taclus am sut mae pethau i fod. Ond cyn bo hir daw rhywbeth ar ein traws sy’n bwrw’r cynllun i anrhefn. Y cysur yw fod yna rhywun y gallwn ni ymddiried ynddo fo i’n dwyn yn ddiogel i ben y daith.

Ar y funud rwyf ym maes awyr Vienna, yn disgwyl am ddwy awr nes daw’r awyren i’m cludo yn ôl i Lundain. Mae yna edrych ymlaen at gyrraedd adref fory a gweld y teulu. Ond mae yna edrych mlaen hefyd at gwrdd rhyw ddydd â’r Un fydd wedi fy nghludo’n ddiogel drwy bob rhwystr i’r cartref tragwyddol hwnnw. Maranatha – Tyred Iesu!