Bu’r Sul yn ddiwrnod prysur a dweud y lleiaf. Dechreuodd y diwrnod gyda brecwast am 7 lle treuliais awr yn mentora gweinidog ifanc o Moldova, oedd yn ceisio meddwl sut y gallai ddefnyddio ei ddoniau yn y ffordd orau, a sut y gallai ysgogi brwdfrydedd yn fwy ymhlith aelodau’r eglwys. Yna daeth pawb at ei gilydd ar gyfer addoliad a neges gan Stefan Gustavsson. Thema ei negeseuau bob bore yw “Cyfarfod â’r Duw byw”, a’r bore hwn cyfeiriodd ni at Iesu yn galw’r disgyblion gan edrych yn bennaf ar bennod gyntaf Efengyl Ioan.

Wedyn roeddem yn rhannu i’n gwahanol ffrydiau. Yn ein ffrwd ni (apologeteg) cawsom sessiwn yn gyntaf gydag Os Guiness, lle roedd yn ein herio i feddwl sut mae cael pobl i ystyried ystyr bywyd – “The Journey: A Thinking Man’s Quest for Meaning.” Roedd yn anerchiad oedd yn ysgogi’r meddwl yn ddwfn. Yna cawsom ein harwain gan Becky Pippert i ystyried gwerth grwpiau astudio’Beibl ar gyfer y rhai sy’n chwilio am ffydd.
Wedi cinio sydyn roeddwn yn arwain gweithdy ar wynebu digalondid a chadw brwdfrydedd mewn gwaith Cristnogol. Fel arfer daw tua dwsin i’r gweithdai hyn, ond roedd tua chwe deg wedi dod yma. Mae’n amlwg fod diffyg hyder a digalondid yn beth roedd llawer yn ei brofi. Arweinias hwy i edrych ar Paul yn calonogi eglwys Philipi yn ei lythyr atynt.

Yna cefais fynd i weithdy arall gan Os Guiness lle roedd yn trafod effaith consumerism ar y gymdeithas a’r eglwys.

Roedd yn amser pryd nos erbyn hyn, ac yn fuan wedyn daeth pawb ynghyd ar gyfer cyfarfod o fawl. Cafwyd neges ynglyn â’r angen i blannu eglwysi yn Ewrop. Dilynwyd hwnnw gan amser dwys o weddi a chanu mawl i Dduw.

Gorffenais y diwrnod yn cael sgwrs gydag Ann (cenhadles yng Ngwlad Belg), Peter (Warden Tyndale House yng Nghaergrawnt) a Martin (Diwynydd ac arbenigwr yn mmewn llawysgrifau cynnar). Dyma ran o ogoniant y gynhadledd. Gallwch fod yn sgwrsio gyda rhai o arbenigwyr mwya’r byd, a gweithwyr Cristnogol mwyaf distadl o sefyllfaoedd cwbl ddi-sylw. A’r hyn sy’n ein clymu wrth ein gilydd yw gras a chariad Duw yn Iesu Grist.