Dyma rai o uchafbwyntiau dydd Llun yn Wisla. Dechreuodd y diwrnod yn mentora gwraig gweinidog o Serbia amser brecwast. Plannodd ei gŵr egwys ym Melgrâd dair blynedd yn ôl, ac mae llawer i fod yn ddiolchgar amdano yn eu sefyllfa. Ond mae’n amlwg fod yna ddiffyg trefn difrifol ymhlith yr eglwysi newydd. Mae traddodiad yn y wlad ers dyddiau comiwnyddol i’r arweinwyr ymddwyn fel deddf iddyn nhw eu hunain, felly mae’n anodd cael eglwysi i gyd-weithio, neu’r arweinwyr i fod yn atebol i unrhyw un. Cafwyd trafodaeth galonogol, a byddaf yn debyg o geisio ymweld â hwy yn ystod y flwyddyn nesaf.

Yn ein cyfarfod mawr arweinidd Stefan Gustavsson ni i ystyried Jacob yn ymgodymu (neu reslo) gyda Duw. (Genesis 32). Roedd ei air yn galonogol a chynnes, ond hefyd y heriol wrth i ni feddwl am ein perthynas gyda Duw.

Wrth i ni rannu i’n gwahanol ffrydiau, ymunodd pedair ffrwd gyda’i gilydd – y Gwyddonwyr, yr Athronwyr, y Diwinyddion â ninnau yn y ffrwd apologeteg. Trefnwyd fod dau wyddonydd amlwg – y naill o Brifysgol Rhydychen, a’r llall o’r Unol Daleithiau – yn cynnal dadl ar Darddiad Sustemau Biolegol Cymhleth. Beth yw’r eglurhad gorau am y modd mae bywyd wedi cyrraedd y man lle mae heddiw. Roedd y naill yn dadlau o blaid esblygiad dan reolaeth Duw (Theistic Evolution), a’r llall yn dadlau o blaid Cynllunio Bwriadol (Intelligent Design.) Roedd yn ddiddorol gweld y modd cyfrifol a pharchus yr oedd y rhain yn mynd ati i drafod. Yna daeth y gweddill ohonom i ymuno yn y drafodaeth. Codwyd cwestiynau dwfn – rhai gwyddonol a rhai diwinyddol. Gwelais gryfderau a gwendidau yn y ddwy ddadl. Ond yr hyn a’m trawodd oedd natur rasol y trafod, nid yn unig gan y ddau wyddonydd (sy’n Gristnogion o argyhoeddiad), ond hefyd ymhlith y gweddill oedd yn trafod.

ELF3

Dros ginio cefais ymuno â grwp ffocws dan arweiniad cefnder Al Capone. Mae’n edrych fel gangster, ond mae ganddo galon dyner. Roeddem yn trafod y syniad o osod ffrwd ar waith y flwyddyn nesaf yn benodol ar gyfer gweinidogion. Gallai hwn fod yn werthfawr tu hwnt, gan fod llawer o weinidogion yn teimlo’n ddi-hyder ac unig yn eu gwaith. Cawn weld beth ddaw.
Un nodwedd hyfryd o’r gynhadledd hon yw’r stondin lyfrau enfawr sydd yma. Ceir amrywiaeth mawr o lyfrau, i gyd â’u prisiau wedi eu gostwng hyd at 60%. I lawer o ddwyrain Ewrop dyma eu cyfle i gael gafael ar adnoddau, a rhoddir ysgoloriaeth iddyn nhw fedru cael rhai am ddim. (Dwi ddim wedi prynu llawer Gwenan – wir!!)

Mynychais weithdy yn y prynhawn ar sut mae ymateb mewn cariad tuag at rai hoyw yn y gymdeithas. Roedd yr ysbryd yn dyner a bugeiliol yno. Wedyn amser bwyd rhannwyd ni i fyrddau yn ôl ein cenedl. Roedd pedwar ar fwrdd Cymru, ond fi oedd yr unig weinidog yn gwasanaethu yng Nghymru yno. Ar y bwrdd nesaf atom roedd rhai o ogledd Iwerddon.
Yn y nos cafwyd cyfarfod gwahanol – cyngerdd gyda phianydd ifanc o Latfia, sydd wedi graddio o Brifysgol Iâl, ac yna wedi bod yn y Coleg Brenhinol yn Llundain. Cawsom eglurhad ar ddau ddarn yr oedd yn eu chwarae gan Messiaen, gan gynnwys yr arwyddocád diwinyddol i’r darnau. Yna daeth Bill Edgar a’i fand Jazz i ganu rhai o ganeuon gospel i ni. Roedd yn braf peidio gorfod meddwl gormod, a mwynhau’r gerddoriaeth.

Ond wedi’r cyngerdd galwyd arnaf i dreulio dros awr yn mentora un gweinidog yma, felly roeddwn yn hen barod i fynd i’r gwely ar ol diwrnod arall o fendith a gwasanaeth.