Credu ffantasïol?

Santa-HelloUn cyhuddiad yn ein herbyn ni sy’n credu ydi ein bod wedi dyfeisio’r syniad o Dduw am ei fod yn ein siwtio – rhyw Sion Corn o dduw i’n helpu trwy fywyd. Er y gellir olrhain y syniad hwn yn ôl o leiaf i Ludwig Feuerbach (1804 – 1872), mae dwy ffrwd y gellir sôn amdanyn nhw yn y meddwl poblogaidd. (rhagor…)

Credu afresymol?

Richard Dawkins

Un o ladmeryddion mwyaf llafar yr Atheistiaeth Newydd yw Richard Dawkins. Yn ei farn ef nid oes unrhyw un sydd yn barod i feddwl yn gallu credu yn Nuw. Mae gennym gymaint o wybodaeth am y byd a’r bydysawd bellach fel bod cred yn Nuw yn amlwg yn ofergoel i unrhyw un sy’n defnyddio gronyn o synnwyr cyffredin. Mae’n apelio yn arbennig at wyddoniaeth i honni mai peth afresymol yw credu. (rhagor…)