ELF 4

Prynhawn Mercher penderfynais orffwys unwaith eto. Mae’r sesiynau mentora yn gallu bod yn drwm bob pryd bwyd. Amser cinio bum yn ceisio cynorthwyo dyn o Rwmania sy’n arwain gweinidogaeth i ddynion yn y wlad, ac yna yn ystod y pryd nos roeddwn yn mentora gwraig sydd wedi cael ei chlwyfo Read more

60 mlynedd yn ôl

imageAr y diwrnod hwn chwe-deg mlynedd yn ôl lladdwyd Jim Elliot a phedwar cyfaill gan Indiaid Auca yng nghoedwigoedd Equador. Gadawyd pedair grwaig yn weddw, a naw o blant heb eu tad. Pam fentrodd y pump i le mor beryglus? Oherwydd eu bod am rannu’r newyddion am Iesu Grist i bobl nad oedd erioed wedi clywed amdano. (rhagor…)

Cynhadledd UFM 2

Heledd yn sôn am ei gwaith

Heledd yn sôn am ei gwaith

Mae’r golwg ar waith Duw mewn gwahanol wledydd yn hynod o gynorthwyol fan yma. Mae gennym ni’r Cymry allu rhyfeddol i weld ein problemau ni fel rhai mwy na phawb arall. Mae gweld y sialensau mae pobl eraill yn eu hwynebu, a’r hyn mae Duw yn ei wneud trwy bobl eraill yn gallu ein codi o’n hunan-dosturi a’n parlys. (rhagor…)