Tymor yr Adfent 2014, 12

imageYn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o’r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. (‭Luc‬ ‭1‬:‭5‬ BCN)

Ymhlith cymeriadau hanes Gŵyl y Geni, dau sydd byth yn ymddangos yn nramáu’r geni yn yr ysgolion yw Sachareias ac Elisabeth. Ar un olwg mae hynny yn golled, oherwydd dyma gwpl gwerth sylwi arnyn nhw. Roedden nhw’n bobl y gallai Duw weithio yn eu bywydau. Roedd Sachareias yn offeiriad, ac yn ymwybodol o’r fraint oedd ganddo o fod yn un o’r rhai oedd yn cael gwasanaethu Duw yn y deml. Roedd ef a’i wraig yn caru Duw, ond hefyd yn rhai oedd yn gwybod am ofid. Roedden nhw yn ddi-blant. (rhagor…)