imageYn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o’r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. (‭Luc‬ ‭1‬:‭5‬ BCN)

Ymhlith cymeriadau hanes Gŵyl y Geni, dau sydd byth yn ymddangos yn nramáu’r geni yn yr ysgolion yw Sachareias ac Elisabeth. Ar un olwg mae hynny yn golled, oherwydd dyma gwpl gwerth sylwi arnyn nhw. Roedden nhw’n bobl y gallai Duw weithio yn eu bywydau. Roedd Sachareias yn offeiriad, ac yn ymwybodol o’r fraint oedd ganddo o fod yn un o’r rhai oedd yn cael gwasanaethu Duw yn y deml. Roedd ef a’i wraig yn caru Duw, ond hefyd yn rhai oedd yn gwybod am ofid. Roedden nhw yn ddi-blant.

Dyma’r dydd yn dod i Sachareias gael mynd i arogldarthu yn y Deml. Roedd hon yn fraint arbennig – roedd nifer yr offeiriaid yn fawr, ac  rhai byth yn cael eu dewis i wneud hyn. Ond fe ddisgynodd y gorchwyl i Sachareias. Yno, yn y deml, gyda phawb arall y tu allan yn disgwyl, daeth Gabriel ato gyda’r neges oddi wrth Dduw: Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. (‭Luc‬ ‭1‬:‭13‬ BWM)

Sylwch ar yr ymadrodd “Gwrandawyd dy weddi” (Mae’r Beibl Cymraeg newydd yn dweud “dy ddeisyfiad”). Tybed ai dyma’r ail dro i’r hen ŵr dderbyn y cyfrifoldeb hwn? A allwn ni ddychmygu y tro cyntaf oedd flynyddoedd ynghynt. Roedd ef ac Elisabeth wedi priodi, ac un o’u gobeithion oedd y caent blentyn, ond roedd yr amser yn dechrau mynd yn hir. Felly wrth ddod â’r arogldarth, a gweddïo am fendith ar y bobl, fe ychwanegodd ei ddeisyfiad ei hun am i Elisabeth feichiogi. Ond ddigwyddodd yna ddim byd.

Aeth blynyddoedd heibio – cymaint nes ei fod wedi anghofio’r weddi bron. Ond yn awr, â hwythau wedi rhoi heibio eu gobaith, ac yntau yn dod eilwaith at allor yr arogldarth, daeth ei hen weddi i’w gof.  (Efallai mai dychymyg ar fy rhan yw hyn, ond yn sicr bu yna weddïo dwys (a dagrau i Elisabeth) am blentyn.)

Yn sydyn, ag yntau yn gweld mwg yr arogldarth yn codi oddi ar yr allor, ac yn gwybod fod hwn yn arwydd o weddïau’r saint yn codi i’r nefoedd, ymddangosodd negesydd o’r nef i ddweud wrtho fod ei weddi wedi ei gwrando. Ni fedrai gredu’r neges, ond o fewn y flwyddyn roedd yn dad, ac yn dad i un o gymeriadau pwysicaf hanes.

Dyma anogaeth i ninnau droi at Dduw ac arllwys ein calonnau ger ei fron. Wyddom ni ddim pa ateb gawn ganddo oherwydd nid rhyw was bach neu genie mewn potel yw, i roi i ni unrhyw beth sy’n cymryd ein bryd. Ond mae Duw yn dda ac yn ddoeth. Mae yn drugarog a graslon. Oherwydd haul a tharian yw’r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy’n rhodio’n gywir. (‭Y Salmau‬ ‭84‬:‭11‬ BCN)

Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
Trefn gollyngdod inni’n llawn:
Duw ryfeddir, iddo cenir
Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
‘N eistedd ar yr orsedd fawr.