Fforwm Arweinwyr Cristnogol Ewrop 2017 (2)

Roedd diwrnod cyntaf llawn y gynhadledd yn dechrau’n gynnar gyda brecwast am 7.00. Mae prydau bwyd yma yn gyfle i fedru cyfarfod a threfnu, gyda llawer o fentora yn digwydd. Roeddwn i wedi trefnu cael brecwast gyda chyfaill o Gymru, Dave Norbury, a buom yn rhannu a meddwl am y Read more

Cynhadledd ELF 3

Dydd Sul

Yr Athro John Lennox

Yr Athro John Lennox

Dechreuodd y diwrnod gyda brecwast am 7.00 y bore yn mentora gŵr ifanc o Latvia. Yna, wedi awr o drafod ei sefyllfa a cheisio cynnig doethineb a chyngor, dyma fynd i gyfarfod llawn cyntaf y diwrnod. Roedd hwn yn cael ei arwain gan Stefan Gustavson, sy’n dod o Sweden. Mae ei hiwmor bob amser yn gafael mewn pobl, ac fel arfer wedi ei gyfeirio tuag at bobl o Norwy. Ond roedd ochr ddifrifol iawn hefyd wrth iddo ein harwain i ystyried gras Duw. Yna daeth John Lennox ymlaen i’n harwain i edrych ar y Beibl. (rhagor…)