Cofgolofn Skanderbeg

Cofgolofn Skanderbeg

Wedi cyrraedd Elbasan brynhawn dydd Iau aeth Dewi a minnau i gartref Armand ac Elona, cwpl ifanc sy’n byw yno. Roeddem wedi cael ein gwahodd i fynd yno i gael cinio hwyr. Roedd chwaer Erman, Eva, yno hefyd. Mae gan Erman ddau o blant, hogyn pedair oed – Elisé (Eliseus), a hogan fach (Daniella) bron yn ddwy. Roedd y croeso yn hyfryd, a hwyl i’w gael efo’r hogyn bach. Mae bod yn groesawus yn bwysig iawn yn y diwylliant, a roeddem yn cael yr argraff ein bod ni wedi gwneud ffafr â nhw drwy dderbyn eu gwahoddiad.

Wedi cwpl o oriau braf yng nghwmni’r teulu dyma droi am y brifysgol unwaith eto ar gyfer fy ail gyfarfod. Fel y diwrnod cynt roedd y myfyrwyr yn ara deg yn dod at ei gilydd. Ond erbyn tua hanner awr wedi pump roedd criw da wedi ymgasglu (dros 40) gyda’r mwyafrif eto ddim yn gredinwyr. Wedi ychydig o hwyl i ddechrau daeth un o’r myfyrwyr ymlaen i ddarllen cerdd roedd wedi ei ysgrifennu am ei hymateb i gariad Crist yn mynd i’r groes drosti.

Y tro hwn, Zef ei hun oedd yn cyfieithu wrth i mi annerch y criw. Fy thema oedd, ble cawn ni sail ar gyfer gwybod beth yw drwg a da? (The good, the bad and the ugly – how do we know what’s right and what’s wrong?) Roedd yr ymateb yn ddiddorol. Roedd y gwrandawiad yn dda, ac un yn enwedig yn ymateb weithiau drwy ysgwyd ei ben mewn anghytundeb, ond dro arall yn cydsynio. Deellais fod hwn yn Foslem, a hynny nid yn unig mewn enw fel llawer o bobl y wlad. Roedd Zef yn dweud bod rhai fel hyn yn aml yn dod i gyfarfod i aflonyddu, ond roedd hwn yn gwrando yn astud. Wrth gwrs, nid yn unig dadlau fod yna dda a drwg oeddwn i, ond mynd ymlaen i ddangos fel roedd Crist wedi dod i ddwyn maddeuant am y drwg sydd ynom ni, a bywyd newydd. Roedd sawl un o’r Cristnogion yn dweud fod arddeliad amlwg ar y neges.

Roedd Dewi wedi dod â rhodd oddi wrth rai o chwiorydd ardal Perthmadog sy’n cyfarfod gyda’i gilydd, a rhoddwyd hwn i Altin i helpu talu costau eu hymgyrch. Roedd hyn eto yn ateb i weddi iddyn nhw, gan eu bod yn gyfyng iawn eu hadnoddau. Gadawsom y criw yn mwynhau gemau wrth gloi’r ymgyrch, a ninnau yn teithio nôl i Tirana i gael bwyd yn y gwesty cyn noswylio. Roedd y lleuad llawn yn drawiadol wrth i ni deithio nôl dros y mynyddoedd a ninnau yn synnu eto ar y newid sydd wedi dod dros y wlad ers dyddiau’r Comiwnyddion.

Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod rhydd, ac er fod Zef wedi cynnig gwneud rhywbeth gyda ni, roedd yn ddiolchgar pan ddaru ni ddweud y gallem grwydro’r ddinas os oedd o am wneud rhywfaint o waith. Felly dyma fentro allan yn y bore i weld y ddinas. Un o’r llefydd lle’r aethom oedd yr Amgueddfa Genedlaethol. Yma roedd modd olrhain hanes y wlad o’r cyn-oesoedd ymlaen i’r cyfnod diweddaraf. Heblaw am y dylanwadau groegaidd amlwg o gyfnod y Testament Newydd, un arall o’r arddangosfeydd diddorol oedd am gyfnod cawr o ddyn o’r enw Skanderbeg, sy’n cael ei gyfrif yn dad y genedl. Ef unodd y llwythau i greu’r genedl, ac roedd copi o’i gleddyf anferth i’w weld yn yr amgueddfa.

Heb fod yn bell o’r amgueddfa mae Mosg ynghanol y ddinas. Adeg y Comiwnyddion fe gaewyd pob adilad crefyddol drwy’r wlad. Ymffrostiai Enver Hoxha mai Albania oed yr unig wir wlad atheistaidd yn y byd. Ond cadwyd y Mosg ynghanol y ddinas yno fel amgueddfa i gofio diwedd crefydd yn y wlad. Wedi diwedd Comiwnyddiaeth, fe al-agorwyd y Mosg, ac wedi dod allan o’r amgueddfa genedlaethol fe ddaru ni sylweddoli ei bod hi’n ddydd Gwener. Roedd tyrfa y tu allan i’r Mosg, a’r Imam yn eu harwain drwy uchelseinyddion yn y gweddïau. Roedd yn rhyfedd gweld tyrfa fawr yn plygu yn eu tro ar y palmentydd y tu allan tra roedd y traffig yn rhuthro heibio.

Ddiwedd y prynhawn daeth Zef i’n cymryd i’r capel lle mae nhw’n cyfarfod. Roedd ei ffwy ferch, Greis ac Emili, gydag o, a tra roedden nhw’n cael bod i fyny grisiau yn y capel yn cael sessiwn gydag ieuenctid yr eglwys, roedd Zef a ninnau mewn ystafell islaw yn cwrdd â chriw sy’n dysgu Saesneg. Dyma un o’r ffyrdd mae’r eglwys yn cyrraedd allan. Doedd dim cynnwys Cristnogol yn y gwersi, ond mae’n gysylltiad arall gyda rhai oddi allan. Roedd hon yn wers wahanol i’r rhai oedd yno, oherwydd cynllun Zef oedd eu bod nhw’n cael cyfle i sgwrsio gyda Dewi a minnau. Felly roeddem ni yn eu holi nhw, a hwythau wedyn yn ein holi ninnau.

Wedi’r wers, fe aeth Dewi a minnau i grwydro ychydig a chael bwyd. Daeth y diwrnod i ben gyda Dewi a minnau yn meddwl a thrafod y sefyllfa adref yng Nghymru, ac yn gweddïo gyda’n gilydd cyn noswylio.